Neidio i'r prif gynnwy

Cyfleusterau Ysbyty ar gyfer Profedigaeth Babanod

Mae gennym ystafelloedd pwrpasol yn ein hysbytai, lle gallwch dreulio amser gwerthfawr gyda’ch babi.

Mae ein switiau profedigaeth yn ystafelloedd llonydd, cyfforddus a phreifat i chi a’ch teulu dreulio amser yn cwrdd â’ch babi ac yn creu atgofion.

Rydym yn defnyddio offer megis yr Abi Cold Cot a blancedi Cuddle Cot i gadw eich babi yn glaear, fel y gallwch chi a’ch babi aros gyda’ch gilydd yn ein swît profedigaeth. Mae’r rhain wedi eu rhoi’n garedig gan deuluoedd er cof am eu babanod a gollwyd.

Mae gennym gamera ac argraffydd ar bob uned i ganiatáu i deuluoedd dynnu ffotograffau pwysig ar gyfer creu atgofion. Mae gennym lawer o ddillad a gynau angel wedi eu cyfrannu gan elusennau lleol, yn cynnwys gwisgoedd wedi eu gwau, yn ogystal â gynau hardd wedi eu creu o wisgoedd priodas a gyfrannwyd, ar gael i chi eu defnyddio os ydych yn dymuno gwneud hynny.