Neidio i'r prif gynnwy

Lleoliad apwyntiadau

Cynigir y rhan fwyaf o'r apwyntiadau cyn y llawdriniaeth a'r llawdriniaeth ei hun yn ein prif ganolfan - Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, ger Y Rhyl, Gogledd Cymru. Mae'r ysbyty'n hygyrch iawn o'r A55 mewn car ac mae gennym ni gysylltiadau da â chludiant cyhoeddus hefyd. Cliciwch yma am gyfarwyddiadau.

Mae modd trefnu cludiant ysbyty os oes gennych ofynion meddygol sy'n golygu nad oes modd i chi ddod atom drosoch eich hun, cysylltwch â ni os felly yw hi a gallwn eich cynghori.

Mae gennym glinigau ymylol hefyd sydd wedi'u lleoli yn yr ysbytai canlynol lle gallwn gynnig apwyntiadau ar ôl eich llawdriniaeth. Sylwer bod ein clinigau ymylol yn hynod brysur ac felly, efallai y byddwch yn aros yn hirach am apwyntiad o gymharu â chael eich gweld yn Ysbyty Glan Clwyd: