A oeddech chi’n gwybod y gall eich optegwyr lleol gynnig llawer mwy i chi na phrofion llygaid, sbectolau a lensys cyffwrdd?
Mae optometryddion, a elwir yn aml yn Optegwyr, yn weithwyr gofal iechyd dibynadwy sy'n arbenigo mewn iechyd llygaid a gofal golwg.
Mae optegwyr wedi’u hyfforddi i asesu a rheoli ystod eang o broblemau llygaid. Maent yn chwarae rhan allweddol wrth wneud diagnosis a thrin problemau golwg a chanfod clefydau llygaid (e.e. glawcoma a dirywiad macwlaidd). Mae gan rai optegwyr y cymwysterau angenrheidiol i ragnodi mathau penodol o feddyginiaeth.
Efallai y bydd angen gofal llygaid brys arnoch os os byddwch yn profi unrhyw un o’r canlynol:
Os oes gennych broblem llygaid sydd angen sylw brys, cysylltwch â’ch swyddfa Optegydd lleol ar unwaith (hyd yn oed os yw’n un nad ydych wedi ymweld ag ef o’r blaen).
Mae’r rhan fwyaf yn hawdd dod o hyd iddynt ar eich stryd fawr leol, ac efallai y bydd rhai hyd yn oed yn cynnig apwyntiadau galw heibio.
Os bydd eich optegydd yn penderfynu eich bod angen archwiliad llygaid brys, gwneir hyn yn rhad ac am ddim o dan Wasanaeth Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS). Mae'r gwasanaeth wedi'i gynllunio i wneud gofal llygaid arbenigol yn haws i'w gael, fel y gallwch gael y cymorth sydd ei angen arnoch yn nes at adref. Gofynnir ychydig o gwestiynau i chi i asesu pa mor gyflym y dylech gael eich gweld.
Mae Gwasanaeth Offthalmig Cyffredinol Cymru yn cynnwys nifer o wasanaethau gwahanol gan gynnwys: