Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o'r Rhaglen - Cyrsiau Hunanreoli Gwytnwch Emosiynol

Trosolwg o'r rhaglen

Trosolwg o raglen ein Cwrs Gwytnwch Emosiynol. 

Mae'r cwrs Hyfforddiant Gwytnwch Emosiynol wedi'i lunio gan Connecting with People a chaiff ei gynnal yng Ngogledd Cymru gan ein tîm hunanofal. 

Nod y cwrs yw: 

  • Gwella eich gallu i ymdopi â theimladau anodd 
  • Gwella eich gallu i ymdopi â digwyddiadau bywyd llawn straen 
  • Rhannu gwybodaeth fel eich bod yn gwybod ble i gael cymorth pellach os bydd ei angen arnoch yn y dyfodol

Cwrs sesiwn 3 awr yw hwn ac mae ar gael mewn lleoliadau cymunedol ar draws Gogledd Cymru. Mae fersiwn ar-lein ar gael gan ddefnyddio unrhyw ddyfais sydd â chysylltiad â'r rhyngrwyd.

Cysylltwch â'n tîm hunanofal i gael mwy o wybodaeth am ein cyrsiau iechyd a lles, gan gynnwys sut i archebu eich lle.