Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Raglen y Sesiwn Cyflwyniad: Hunanreoli COVID Hir

Trosolwg o'r rhaglen

Mae'r cwrs Rhagarweiniad i Hunanreoli COVID Hir yn sesiwn untro, tair awr o hyd sy'n edrych ar adnoddau i helpu pobl i reoli eu symptomau a hybu eu hiechyd a'u lles cyffredinol. Mae'r cwrs ar gael i bobl sy'n 18 mlwydd oed neu'n hŷn ac sy'n byw gyda COVID Hir. 

Mae'r pynciau dan sylw yn cynnwys: 

  • Meddwl yn gadarnhaol 
  • Rheoli gweithgareddau bod dydd 
  • Blinder 
  • Cyfathrebu 
  • Ymlacio 
  • Meddyginiaeth 
  • Bwyta'n iach 
  • Cynllunio camau gweithredu a datrys problemau

Nod y rhaglen yw cyflwyno pobl i dechnegau hunanreoli, i'w galluogi i reoli symptomau gartref a gwneud dewisiadau cadarnhaol am eu gofal.

Cysylltwch â'n tîm hunanofal i ddarganfod mwy o wybodaeth am ein cyrsiau iechyd a lles, gan gynnwys sut i archebu eich lle.