Mae plant ifanc yn tyfu'n gyflym ac mae angen iddynt gael mwy o'u hegni o fraster na phlant hŷn neu oedolion.
Nid oes angen dewis opsiynau braster isel i'ch plentyn, ond mae'r math o fraster yn bwysig. Mae brasterau annirlawn yn fathau iachach o fraster ac maent yn cynnwys olewau llysiau, had rêp, olewydd a blodau haul.
Gellir cynnig symiau bach o'r olewau a'r taeniadau hyn i blant dan 5 fel rhan o ddeiet cytbwys.