Neidio i'r prif gynnwy

Ffrwythau a llysiau

Mae ffrwythau a llysiau yn darparu ystod o fitaminau, mwynau a ffibr a dylech anelu at 5 dogn y dydd. Ceisiwch gynnwys amrywiaeth o liwiau i helpu i gadw prydau a byrbrydau yn ddiddorol ac i roi cymysgedd da i chi o'r gwahanol faetholion sydd ganddynt i'w cynnig. Mae bwydydd ffres, bwydydd wedi’u rhewi a bwydydd sych i gyd yn cyfrif. Cofiwch olchi pob ffrwyth a llysieuyn ffres. Gallwch gynnwys ffrwythau a llysiau sydd wedi’u gwneud yn sudd neu smwddis, ond dylech ond ei gyfrif fel 1 o'ch dogn 5 y dydd (wedi'i gyfyngu i 150ml dogn).