Neidio i'r prif gynnwy

Bwydydd llawn startsh

Mae bwydydd sydd llawn startsh yn cynnwys bara, tatws, grawnfwydydd brecwast, reis, pasta a nwdls. Maent yn darparu ffynhonnell bwysig o egni a ffibr yn ogystal â rhai fitaminau. Dylent fod tua thraean o'r bwyd yr ydym yn ei fwyta a chael eu cynnwys fel rhan o'n prydau. Gall dewis opsiynau uchel mewn ffibr megis bara grawn cyflawn neu wenith cyflawn, grawnfwydydd, reis, pasta a thatws gyda chroen eich helpu i gynnal system dreulio sy'n gweithredu’n iach.