Neidio i'r prif gynnwy

Polisi'r Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron

Amcanion

Pwrpas y polisi hwn yw creu awyrgylch croesawgar ble gall mam sy'n bwydo ar y fron deimlo'n gyfforddus, wrth ddefnyddio’r cyfleusterau yn y sefydliad hwn. Yn unol â hynny, gall mamau sy'n dymuno bwydo ar y fron wneud hynny yn y sefydliad.

Mae’r sefydliad yn cydnabod y canlynol:

  • Mae bwydo ar y fron yn cynnwys manteision iechyd i’r fam ac i’r babi, yn y tymor byr ac yn yr hir dymor, a manteision cymdeithasol ac economaidd i Ogledd Cymru.
  • Mae bwydo ar y fron yn well i fabanod; ymysg pethau eraill mae’n eu hamddiffyn rhag gastro-enteritis, heintiau ar y frest a diabetes.
  • Mae stumogau babanod yn fach iawn ac mae llaeth o’r fron yn cael ei dreulio’n gyflym iawn. Gan hynny, mae’n rhaid i fabanod gael eu bwydo’n aml iawn, a’r babi sy’n penderfynu am faint o amser.
  • Mae bwydo ar y fron yn gweithio ar ei orau pan fydd y fam a’r babi wedi ymlacio.  
  • Mae bwydo ar y fron yn naturiol a gellir ei wneud yn unrhyw le.
  • Yn gyffredinol, mae babanod a phlant bach llwglyd a digalon yn setlo, ac yn dod yn hapus yn sydyn iawn trwy gael eu bwydo ar y fron, mae hyn yn dda i chi gyd.
  • Dylai holl staff/gwirfoddolwyr fod yn ymwybodol ac wedi’u hyfforddi wrth ddefnyddio’r polisi hwn.

Canllawiau i staff/ gwirfoddolwyr:

  • Mae yn erbyn y gyfraith i drin merch yn annheg am ei bod hi’n bwydo ar y fron mewn man cyhoeddus (Deddf Cydraddoldeb 2010).
  • Ni ddylid gofyn i fam sy’n bwydo ar y fron stopio, symud neu adael y safle.
  • Gall staff/gwirfoddolwyr gefnogi mam sy’n bwydo ar y fron drwy ddangos agwedd gadarnhaol a chroesawus. Gall gwên gyfeillgar neu gynnig gwydriad o ddŵr helpu.  
  • Mae angen mwy o breifatrwydd ar ambell fam, felly mae modd cynnig ystafell breifat neu ddewisiadau amgen eraill.

Os bydd ymwelydd yn cwyno am fam sy’n bwydo ar y fron, dylai’r staff/gwirfoddolwyr:

  • Roi gwybod i'r achwynydd mai polisi'r sefydliad hwn yw cefnogi bwydo ar y fron.
  • Cyfeirio’r cwyn at y Rheolwr/ Gwasanaethau Cwsmeriaid.