Mae’r llyfryn a’r ffilm hon wedi’u creu gan bobl ifanc sydd wedi defnyddio gwasanaethau Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) Amethyst. Yn eu geiriau eu hunain maen nhw wedi siarad am fagu’r dewrder i siarad am drais rhywiol yng Ngogledd Cymru.
Cafodd y fideo hwn ei greu i ddangos y cymorth a’r gefnogaeth y gallwch eu derbyn o unrhyw SARC ar draws Cymru. Gwyliwch y ffilm a’r fideo animeiddio i gael rhagor o wybodaeth am beth sy’n digwydd mewn canolfan gyfeirio ar gyfer ymosodiadau rhywiol a’r math o gymorth a chefnogaeth y gallwch ddisgwyl eu cael.