Neidio i'r prif gynnwy

Ffisiotherapi

Ffisiotherapi

Mae ffisiotherapi’n helpu rhywun a effeithiwyd gan anaf, salwch neu anabledd datblygiadol neu anabledd arall i symud a gweithredu eto a hynny mor agos i normal â phosib.

Fel proffesiwn gofal iechyd, mae sylfaen wyddonol ffisiotherapi’n ymwneud ag amrywiaeth eang o waith sy’n golygu gweithio gyda pobl i hybu eu hiechyd a’u lles. Mae ffisiotherapyddion yn cyfuno eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dull o weithio er mwyn gwella ystod eang o broblemau corfforol sy’n gysylltiedig â gwahanol ‘systemau’r’ corff.

Mae ffisiotherapyddion yn gweithio gyda thimau aml proffesiynol ar draws ysbytai cymuned, safleoedd yn y gymuned ac yng nghartrefi pobl a chlinigau cleifion allanol.

Mae ffisiotherapyddion yn gweithio mewn amryw o sefyllfaoedd iechyd gwahanol fel:

  • Gofal Dwys
  • Salwch meddwl
  • Adferiad wedi strôc
  • Iechyd Galwedigaethol
  • Gofal yr Henoed

Mae ffisiotherapyddion yn cyfuno eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dull o weithio er mwyn gwella ystod eang o broblemau corfforol sy’n gysylltiedig â gwahanol ‘systemau’r’ corff. Yn fwyaf arbennig maent yn trin:

  • Niwrogyhyrol (yr ymennydd a system nerfol)
  • Cyhyrysgerbydol (meinweoedd meddal, cymalau ac esgyrn)
  • Systemau resbiradol a chardiofasgiwlar (calon ac ysgyfaint)

Cyfeirir pobl yn aml am ffisiotherapi gan feddygon neu weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol eraill. O ganlyniadau i newidiadau mewn gofal iechyd, mae mwy a mwy o bobl yn cyfeirio’u hunain yn uniongyrchol at ffisiotherapyddion heb weld unrhyw weithiwr proffesiynol gofal iechyd o’r blaen.

Mae ffisiotherapyddion yn gweithio'n annibynnol, yn aml iawn fel aelod o dîm gyda gweithwyr proffesiynol iechyd neu ofal cymdeithasol eraill. Nodweddion ffisiotherapi yw myfyrio a rhesymu’n glinigol yn systematig, gan gyfrannu at  ddull datrys problemau a gosod sylfaen iddo wrth ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar y claf.

Taflen Wybodaeth i Gleifion

Hunan Gyfeirio ar gyfer Ffisiotherapi Cyhyrysgerbydol

Mae Ffisiotherapi Cyhyrysgerbydol yn ymwneud â ffisiotherapi'r system cyhyrysgerbydol. Mae hyn yn golygu cyhyrau, esgyrn, cymalau, nerfau, gewynnau, cartilag a disgiau asgwrn y cefn.

Os ydych yn teimlo eich bod yn dioddef gan anhwylder cyhyrysgerbydol a allai gael budd o ffisiotherapi, bellach gallwch wneud cyfeiriad uniongyrchol i'ch ardal ffisiotherapi leol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae hyn yn cynnig mwy o ddewis i gleifion a mynediad cyflymach at wasanaethau ysbyty heb fod angen ymweld â'r meddyg teulu.

Sylwer nad yw'r opsiwn cyfeirio hwn ar gael i gleifion dan 18 oed neu ar gyfer problemau niwrolegol, resbiradol neu gynaecolegol.

Taflen Wybodaeth ar gyfer Hunan Gyfeirio at Ffisiotherapi

Beth yw ffurflen hunan gyfeirio papur a beth wyf yn ei wneud gyda hi?
Ffurflen hunan gyfeirio yw ffurflen bapur y gallwch chi ei chwblhau ac un ai ei hanfon at yr Adran Ffisiotherapi leol neu ddod â'r ffurflen i mewn. Ar y ffurflen, bydd nifer o gwestiynau'n cael eu gofyn i chi am eich cyflwr.

Unwaith bydd y ffurflen yn cyrraedd yr Adran Ffisiotherapi, bydd uwch aelod o staff yn ei darllen a byddwch yn cael eich rhoi ar restr aros ffisiotherapi a bydd yr adran yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad yn fuan. Gwnewch yn siŵr bod eich manylion cyswllt wedi'u hysgrifennu yn glir, gan gynnwys eich rhif ffôn cyswllt.

Ble alla i ddod o hyd i'r ffurflen?

Mae'r ffurflen hon ar gael mewn meddygfeydd ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr neu gan eich Adran Ffisiotherapi leol. Gallwch hefyd argraffu copi o’r ffurflen yma.

Unwaith byddwch wedi cwblhau eich ffurflen, anfonwch hi at eich Adran Ffisiotherapi leol.

I ble ydw i'n anfon fy ffurflen hunan gyfeirio?