Gall helpu eraill fod yn wobrwyol iawn ac mae'n eich galluogi i greu cysylltiadau â phobl o'ch amgylch.
Gwnewch rywbeth neis i ffrind neu ddieithryn. Diolchwch i rywun. Gwenwch. Gwirfoddolwch eich amser neu helpwch rywun. Ymunwch â grŵp cymunedol. Edrychwch tuag at allan a thuag at i mewn. Ond byddwch hefyd yn garedig â chi'ch hun pan fyddwch angen seibiant, neu angen rhywfaint o amser i wneud pethau sy'n dod â llawenydd i chi.
Gweler Gwirfoddoli Cymru am fwy o wybodaeth am sut y gallwch chi gymryd rhan a rhoi i eraill.