Yn yr oedran hwn, mae bydoedd plant yn ehangu ac maent yn dechrau dod yn fwy annibynnol gartref, yn yr ysgol ac yn eu cymuned ehangach. Mae gennych rôl bwysig fel rhiant neu oedolyn dibynadwy i annog hyn trwy eu helpu i ddatblygu eu cysylltiadau cymdeithasol, perthnasoedd a rhwydweithiau cymorth.
Caniatewch iddynt archwilio eu diddordebau eu hunain wrth ddysgu am ffiniau. Anogwch nhw i fod yn gwrtais, yn ystyriol ac yn barchus tuag at eraill a chynnig help os oes ei angen ar eraill.
Mae plant o'r oedran hwn yn datblygu eu hymwybyddiaeth emosiynol; helpwch eich plentyn i weithio trwy ei deimladau yn ogystal â'i helpu i ddeall sut y gall eraill deimlo.
Mae chwarae yn dal i fod yn bwysig i blant yn y cyfnod hwn o'u datblygiad. Caniatewch iddynt dreulio amser yn chwarae a chreu storïau creadigol a llawn dychymyg. Cefnogwch nhw i roi cynnig ar weithgareddau newydd ac i ddyfalbarhau pan allai fod yn anodd neu pan fyddant yn gwneud camgymeriadau. Atgoffwch nhw i chwarae'n deg a bod yn garedig.
Cefnogwch eich plentyn i wneud dewisiadau iach ar gyfer ei les corfforol a meddyliol. Gallwch greu cyfleoedd i’ch plentyn ddysgu sut i ofalu am ei les ei hun. Byddwch yn fodel rôl positif i'ch plentyn.
Cefnogwch nhw i ddysgu am ddefnyddio'r rhyngrwyd a thechnoleg mewn ffordd ddiogel. Helpwch nhw i ddysgu sut i wneud penderfyniadau gwybodus.
Cliciwch isod i ddarganfod mwy. Cofiwch fod un gweithgaredd, fel chwarae gyda’ch plentyn, yn aml yn golygu eich bod wedi cyflawni llawer o’r pum ffordd at les trwy un gweithgaredd. Mae enghreifftiau o weithgareddau yn cynnwys:
Nid oes angen gwario arian wrth gadw at y Pum Ffordd at Les. Mae’n ymwneud yn fwy â bod yn bresennol yn yr eiliad (rhoi’r ffôn i’r ochr am ychydig funudau) a rhoi o'ch amser a’ch sylw i’ch plentyn.
Caniatewch i'ch plentyn Gysylltu gyda'i ffrindiau a Bod yn Actif yn y parc. Ehangwch eu dealltwriaeth a chaniatewch iddynt Ddal Ati i Ddysgu trwy eu dysgu sut i goginio pryd syml. Rhowch o'ch amser a'ch sylw i wrando ar sut aeth eu diwrnod yn yr ysgol. Anogwch nhw i Fod yn Sylwgar o anghenion eu hanifeiliaid anwes a gofalu amdanyn nhw gyda chi.