Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i Ddarparwyr Gwasanaeth

Gwybodaeth i Ddarparwyr Gwasanaeth

Ydych chi'n darparu cefnogaeth neu wasanaeth i bobl yn eich cymuned? ​ Os felly, gellir defnyddio’r dull Pum Ffordd ochr yn ochr â’ch gwaith o ddydd i ddydd i helpu i gynnal llesiant a'i wella. Rydym wedi cynnwys enghreifftiau isod lle gellir cymryd camau ar lefel unigol, cymunedol, sefydliadol ac ar lefel polisi. ​

Lefel unigol
  • Hyrwyddo dealltwriaeth o'r holl fuddion sy'n gysylltiedig â'r Pum Ffordd i unigolion, eu teuluoedd a chyfeillion.
  • Annog hunanofal a'i gefnogi. Dechrau ar yr un lefel â phobl a chadw pethau'n syml.​
  • Helpu unigolion i ddod o hyd i'w syniadau eu hunain neu gallwch ddefnyddio rhai o'r enghreifftiau o'n hadnoddau.  
Grwpiau a Chymunedau
  • Hwyluso gweithredu ar les gyda grwpiau a chymunedau e.e. datblygu gweithgareddau cymunedol o amgylch y Pum Ffordd. ​
  • Ymgorffori dangosyddion Pum Ffordd mewn arolygon cymunedol neu werthusiadau o weithgareddau.​
  • Mapio'r asedau o fewn eich cymuned i gefnogi'r Pum Ffordd a'r lleoliad a sicrhau bod y wybodaeth yn hygyrch.​ 
Sefydliadau
  • Helpu i adeiladu amgylchedd cefnogol i weithwyr trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau Pum Ffordd e.e. datblygu ymgyrch i annog a chefnogi cyflogeion i fod yn weithgar yn gorfforol a galluogi mentrau cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol ​
  • Defnyddio'r Pum Ffordd i gefnogi sesiynau cynefino, hyfforddi ac adolygu staff. ​
  • Defnyddio logo'r Pum Ffordd ar lofnodion e-bost, llythyrau, a deunyddiau hyrwyddo eraill i roi gwybod i bobl bod eich gwasanaeth yn cefnogi lles meddwl mewn ffordd weithredol.
  • Defnyddio'r Pum Ffordd i helpu i lywio sut y gallai eich gwasanaeth gefnogi lles eich defnyddwyr gwasanaeth ymhellach. ​
Polisïau a strategaethau ​
  • Integreiddio ystyriaeth o’r Pum Ffordd i ddylanwadu ar yr amgylchiadau ehangach y mae pobl yn byw ac yn gweithio ynddynt e.e. defnyddio’r Pum Ffordd i ddatblygu strategaeth a pholisi y tu allan i gylch gorchwyl uniongyrchol iechyd meddwl.​
  • Defnyddio’r Pum Ffordd i gynllunio a gwerthuso rhaglenni, datblygu llwybrau a gweithgareddau sy’n cefnogi llesiant.
  • Defnyddio'r Pum Ffordd at Les fel fframwaith i ddatblygu eich gwasanaeth a’i ddefnyddio o fewn trefniadau cytundebol neu drefniadau caffael.​

Mae gennym ddiddordeb mawr mewn datblygu gwell dealltwriaeth o effaith defnyddio'r Pum Ffordd o fewn gwasanaethau ar draws Gogledd Cymru. Os ydych wedi rhoi unrhyw un o’r dulliau hyn ar waith, byddem yn croesawu unrhyw adborth y gallwch ei rannu, gan gynnwys gwersi a ddysgwyd, fel y gallwn adeiladu sylfaen dystiolaeth a’i rhannu ag eraill. ​ Cysylltwch â ni trwy e-bost ar 5ways.northwales@wales.nhs.uk. ​