Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Y Waun

Cyfeiriad: Oddi ar Stryd John, Y Waun, LL14 5LN
Rhif Ffôn: 03000 850 003

Gwasanaethau Ysbyty

  • Ffisiotherapi cleifion mewnol ac allanol
  • Gwelyau cleifion mewnol
  • Yr arbenigeddau cleifion mewnol ydy Gofal yr Henoed a Gwelyau Meddygol Meddygon Teulu
  • Hwylusydd rhyddhau i gefnogi teulu a gofalwyr wrth gynllunio i ryddhau
  • Cydlynwyr ymweld gofal iechyd meddwl
  • Therapi Galwedigaethol
  • Therapi Iaith a Lleferydd
  • Wroleg
  • Fflebotomi (ar agor 8.30am - 12pm dydd Llun i ddydd Gwener, ond ddim ar wyliau banc, apwyntiad yn unig, ffoniwch 03000 850 003 i wneud apwyntiad.)
  • Uned Asesu a Thrin (Grŵp Clefyd Parkinson, Atal Codymau, Rhaglen Iechyd a Lles ar gyfer Colli Cof Cynnar)
  • Awdioleg
  • Clinigau Meddygon Ymgynghorol i Gleifion Allanol
  • Clinigau Nyrsys Arbenigol i Gleifion Allanol
  • Uwchsain
  • Y Tîm Nyrsys Diabetig
  • Adran Uwchsain: Dydd Llun:- 8am-8pm, Dydd Iau- 8am-8pm

Cyfleusterau

Diod poeth ar gael o’r peiriant gwerthu.

Ymweliadau ag Ysbytai

Mae amseroedd ymweld yn amrywio ac argymhellir eich bod yn ffonio cyn ymweld er mwyn cadarnhau amseroedd ymweld y ward.

Mae pob un o'n safleoedd ysbyty yng Ngogledd Cymru yn ddi-fwg, gallai unrhyw un sy'n cael ei ganfod yn torri'r gyfraith trwy ysmygu ar diroedd ysbytai wynebu dirwy o £100, y gellir ei gorfodi'n gyfreithiol.

Sut i gyrraedd

Ar y ffyrdd: Rhowch y cyfeiriad canlynol yn eich ap map i gael cyfarwyddiadau i safle'r ysbyty: Ysbyty Y Waun, Oddi ar Stryd John, Y Waun, LL14 5LN

Ar y trên: Mae’r ysbyty tua milltir a hanner o Orsaf y Waun. Am fwy o wybodaeth, ewch i traveline-cymru.info

Ar y bws: Gwasanaeth bws rheolaidd bob dydd. Am fwy o wybodaeth, ewch i traveline-cymru.info