Prif Swyddog Gweithredu (dros dro)

Cychwynodd Matt Powls yn Brif Swyddog Gweithredu (dros dro) ym mis Medi 2026.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Matt Powls wedi’i benodi’n Brif Swyddog Gweithredu Dros Dro. 

Daw Matt atom o Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Prifysgol Portsmouth, lle bu’n Brif Swyddog Gweithredu Dros Dro. Mae ganddo brofiad helaeth o arwain gwasanaethau gweithredol yn y GIG, mewn ysbytai acíwt ac ar draws systemau iechyd ehangach. Mae ei brofiad yn cynnwys swyddi fel Prif Swyddog Gweithredu yn Swydd Gaerwrangon a Dwyrain Caint, a Rheolwr Gyfarwyddwr yn ysbytai Broomfield a Southend. Mae hefyd wedi dal swyddi uwch-arweinyddiaeth ym Manceinion Fwyaf ac ym Mwrdd Gofal Integredig Swydd Buckingham, Swydd Rydychen a Gorllewin Berkshire.

Mae Matt yn arweinydd gweladwy sy’n cael ei arwain gan werthoedd, ac mae ganddo ffocws cryf ar wella gofal i gleifion, cefnogi staff a sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu’n ddibynadwy.

Dywedodd: “Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â chydweithwyr ledled Gogledd Cymru, gwrando ar eu profiadau a chydweithio i ddarparu’r gofal gorau posibl i’n cymunedau.”