Ymunodd Deborah Kelly â ni fel ein Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth ym mis Tachwedd 2026.
Mae gan Deborah fwy na 35 mlynedd o brofiad yn y GIG ac mae wedi ymgymryd â nifer o uwch rolau nyrsio a rheoli mewn ysbytai addysgu mawr yn Llundain ers cymhwyso fel nyrs ym 1985.
Mae Deborah wedi ennill profiad mewn amrywiaeth o rolau arwain mewn gwasanaethau cymunedol, acíwt a thrydyddol, gan gynnwys fel Dirprwy Brif Nyrs Ymddiriedolaeth GIG Barts Health, yn ogystal â gweithio yn y Dwyrain Canol fel Dirprwy Brif Nyrs a Phrif Nyrs Gwybodeg yn Sidra Medicine, Doha, Qatar.
Dywedodd Deborah: “Rwy’n falch iawn o ymgymryd â swydd Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac rwy’n edrych ymlaen at ymuno â chydweithwyr a staff ymroddedig i barhau â’r rhaglen wella sydd ar waith.
“Ni ellir gorbwysleisio fy angerdd a’m hymroddiad i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r proffesiwn ac, yn hollbwysig, i ofal cleifion. Mae’r swydd hon yn fy ngalluogi i gyfrannu at greu a llywio sylfaen o ragoriaeth mewn gofal y mae cleifion a’r cyhoedd yn ei disgwyl.
“Ar nodyn personol, mae’r cyfle hwn yn caniatáu imi ddychwelyd at fy ngwreiddiau Cymreig ar Ynys Môn, ar ôl dechrau fy ngyrfa cyn cofrestru yno flynyddoedd lawer yn ôl. Mae’r cysylltiad hirsefydlog hwn yn golygu fy mod hyd yn oed yn fwy falch o gael gweithio yn y gymuned lle mae fy nheulu a’m hanwyliaid yn byw ac yn gweithio, ac ar ei rhan.”