Neidio i'r prif gynnwy

Dyfed Edwards, Cadeirydd

Rôl Eiriolwr: Y Gymraeg, drwy'r Pwyllgor Pobl a Diwylliant
Cyfnod yn y rôl: Mawrth 2024 - Chwefror 2028

Penodwyd Dyfed Edwards yn ffurfiol i swydd Cadeirydd BIPBC gan y Gweinidog Iechyd ar 30 Ionawr 2024. Roedd wedi bod yn Gadeirydd Dros Dro ers mis Chwefror 2023.

Cyn hynny, bu Dyfed yn Aelod Annibynnol ar Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru ers mis Ebrill 2018 ac yn Ddirprwy Gadeirydd Awdurdod Refeniw Cymru ers mis Medi 2018, ar ôl gwasanaethu ar y Bwrdd ers mis Hydref 2017.

Mae Dyfed yn gyn Arweinydd ar Gyngor Gwynedd, swydd y bu ynddi rhwng 2008 a 2017, pan roddodd y gorau i fod yn gynrychiolydd etholedig.

Bu hefyd yn Is-lywydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac yn ystod y cyfnod hwn, bu’n gynrychiolydd ar Is-grŵp Cyllid Llywodraeth Cymru/Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac yn llefarydd ar dai, y Gymraeg, treftadaeth, chwaraeon a'r celfyddydau. Bu Dyfed hefyd yn aelod o Grŵp Arbenigol Llywodraeth Cymru ar Dai ar gyfer Poblogaeth sy'n Heneiddio a Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cymunedau Cymraeg Llywodraeth Cymru.

Mae gan Dyfed wybodaeth eang am addysg yng Nghymru. Mae’n gyn-athro a llywodraethwr ysgolion cynradd ac uwchradd ac roedd yn arweinydd portffolio addysg Cyngor Gwynedd cyn iddo gael ei benodi'n Arweinydd.

Mae wedi gweithio i sefydliadau gwirfoddol a thrydydd sector yng Ngwynedd ac mae ganddo brofiad yn y sector Busnesau Bach a Chanolig gan iddo sefydlu busnes cyhoeddi cerddoriaeth cyn ymgymryd â'i swydd fel Arweinydd Cyngor Gwynedd.

Mae Dyfed wedi cael ei gydnabod am ei waith gan ennill gwobr Gwleidydd Lleol Cymreig y Flwyddyn yn 2009.

Cafodd ei eni a'i fagu yn Rhosllannerchrugog, Wrecsam ac mae bellach yn byw ym Mhenygroes, Gwynedd. Yn ei amser hamdden mae Dyfed yn mwynhau chwaraeon, y celfyddydau, cerdded a darllen.