Neidio i'r prif gynnwy

Rhagfyr 2023

Tîm y Gymraeg yn ennill gwobr genedlaethol am helpu ysgolion a phobl ifanc i ymgyfarwyddo â byd gwaith.

Gwnaeth Tîm y Gymraeg ennill y wobr am yr Hyrwyddwr Gorau o ran y Gymraeg yn y Gweithle yn seremoni flynyddol Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr Gyrfa Cymru.

Mae'r gwobrau cenedlaethol yn dathlu ymdrechion cyflogwyr ar hyd a lled Cymru sy'n gweithio mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru i helpu ysgolion a phobl ifanc i ymgyfarwyddo â byd gwaith.

Enwebwyd Tîm y Gymraeg am y gwaith y mae wedi'i wneud i hysbysu, ysbrydoli a chymell pobl ifanc ynghylch cyfleoedd gyrfaol yn y sector iechyd yng Ngogledd Cymru, yn benodol y cyfleoedd i weithio'n ddwyieithog.