Neidio i'r prif gynnwy

Ward ysbyty yn agor caffi dementia ar gyfer cleifion a'u perthnasa

09/03/2023

Bellach, gall cleifion ar ward pobl hŷn Ysbyty Maelor Wrecsam fynd allan i fwynhau paned a chacen gyda'u teuluoedd.

Mae staff Ward Morris yr ysbyty, a'r tîm ystadau, wedi rhoi pob gewyn ar y gwaith i weddnewid hen ystafell gweithgareddau a chreu Caffi Morris ar gyfer eu cleifion dementia.

Maent hefyd wedi creu 'arhosfa bysys' ag amserlen y tu allan i'r caffi, i alluogi cleifion i deimlo eu bod yn mynd allan gyda'u cyd-gleifion neu'n mynd i weld eu hymwelwyr.

Dywedodd y Fetron, Rebecca Jones: "Roeddem yn dymuno sefydlu llecyn dymunol ar gyfer ein cleifion, i fynd yno i eistedd gyda'u teuluoedd a rhyngweithio â'i gilydd.

“Mae'r tîm wedi ymdrechu'n ddiflino i sefydlu'r caffi a'i agor mor gyflym. Fe wnaeth aelodau o'r staff ddod yma ar eu diwrnodau rhydd hyd yn oed, i helpu i sefydlu'r cyfleuster. Rwyf mor falch o ymdrechion pawb, ac mae'n llwyddiant ysgubol.

"Roedd yr arhosfa bysys yn elfen ychwanegol o'r profiad o fwynhau diwrnod allan, felly bydd cleifion yn dod allan o'r ward ac yn cerdded tuag at yr arhosfa bysys, ac yna, agorir y caffi iddynt.

“Rydym am i gleifion ddod yma ar adegau prydau bwyd, a rhwng yr adegau hynny i fwynhau byrbrydau, diodydd, a chymdeithasu â'i gilydd ac â'u teuluoedd. Mae'n rhywle i fynd i fwynhau achlysuron arbennig.”

Agorwyd y caffi y mis hwn, ac mae'n gyfleuster rhad ac am ddim i'r holl gleifion a'u hymwelwyr. Mae'r waliau wedi cael eu paentio a'u papuro'n ddiweddar, a cheir radio a phiano, ac mae'r holl gadeiriau a'r byrddau yn rhoddion gan Wasanaeth Gwirfoddol Maelor.

Cydnabyddir fod y caffi yn gyfleuster sy'n lleddfu cleifion sy'n byw gyda dementia pan fyddant mewn amgylchedd anghyfarwydd yn yr ysbyty.

Dywedodd Erin Humphreys, Pennaeth Nyrsio ym maes Meddygaeth Ysbyty Maelor Wrecsam: "Heb os, mae'r syniad i sefydlu caffi a'r ymdrech i'w agor yn ffrwyth gwaith tîm. Mae hefyd yn ffordd dda o sicrhau y caiff ein cleifion fwy o annibyniaeth ac atal eu cyflwr rhag gwaethygu, ac rydym eisoes wedi cael sylwadau hyfryd gan gleifion, yn dweud eu bod yn teimlo eu bod wedi bod ar wibdaith.

“Mae hyn yn deillio i raddau helaeth o'r sylwadau gan gleifion ynghylch beth fuasent yn hoffi ei gael, felly mae hyn wedi'i ysgogi gan eu hadborth hwy hefyd. Hefyd, mae gennym glaf a arferai weithio mewn caffi ac mae hi'n dymuno gwirfoddoli yng Nghaffi Morris, felly rydym ni wedi rhoi tabard iddi hi i'w wisgo a thil i sicrhau y bydd yn teimlo fel caffi go iawn.

"Hoffem ddiolch i'r holl staff sy'n rhan o nifer o dimau am wireddu'r profiad gwych hwn ar gyfer ein cleifion ac i'r sawl a ddaeth i'r ysbyty i gynorthwyo yn ystod eu diwrnodau rhydd, yn cynnwys Sue Jones, un o'n Cynorthwywyr Gofal Iechyd, a gyfrannodd ac a osododd y papur wal yn y caffi. Mae hynny'n gwneud gwahaniaeth enfawr."

Gellir gweld gardd y ward o'r caffi, ac mae'r tîm bellach yn edrych ymlaen at ddatblygu'r ardd fel y gall cleifion ei defnyddio yn ystod yr haf.

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)