Neidio i'r prif gynnwy

Treialu menter diogelwch cleifion newydd yn Ysbyty Gwynedd

14 Tachwedd 2022

Mae Ysbyty Gwynedd yn treialu gwasanaeth newydd i aelodau’r cyhoedd godi pryderon yn annibynnol gyda chlinigwyr medrus iawn os ydynt yn credu bod cyflwr clinigol claf yn dirywio.

Mae’r rhaglen Call 4 Concern yn galluogi ffrindiau, perthnasau - a’r cleifion i gymryd mwy o ran yn y penderfyniadau'n ymwneud â’'u triniaeth a'u gofal.

Mae’r Tîm Ymyrraeth Acíwt yn dîm o uwch ymarferwyr nyrsio medrus a phrofiadol iawn sy’n cefnogi timau ward i ofalu am y cleifion sy’n ddifrifol wael ar y wardiau ac sydd ar gael 24 awr y dydd.

Mae'r gwasanaeth yn cael ei dreialu ar hyn o bryd ar Ward Tegid (Llawfeddygol) ar gyfer cleifion sydd wedi'u rhyddhau o'r Uned Gofal Critigol.

Dywedodd Eirian Edwards, sy’n Uwch Ymarferydd Nyrsio o fewn y Tîm Ymyrraeth Acíwt: “Rydym yn falch iawn o fod yn treialu gwasanaeth Call 4 Concern gan ei fod yn darparu rhwyd ​​​​ddiogelwch i’n cleifion.

“Mae cynnwys cleifion yn eu penderfyniadau am driniaeth gofal iechyd yn gwella diogelwch cleifion, yn lleihau niwed ac yn ail-gydbwyso’r berthynas rhwng unigolion a gweithwyr iechyd proffesiynol.”

Ychwanegodd Dr Chris Subbe, Meddyg Ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd: “Mae gan bawb yr hawl i gefnogi eu diogelwch eu hunain, hyd yn oed yn yr ysbyty.

“Mae cleifion yn bartneriaid yn eu diogelwch eu hunain. Mae Call4Concern yn eu galluogi i gymryd rhan fwy gweithredol, hyd yn oed yn yr ysbyty.

“Rydym yn ddiolchgar am yr holl gynrychiolwyr cleifion lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sydd wedi ein hannog a’n cefnogi i ddatblygu’r gwasanaeth hwn.”

Mae'r tîm yn gobeithio cyflwyno'r gwasanaeth hwn ar draws yr holl wardiau yn yr ysbyty dros y misoedd nesaf ac yn y dyfodol agos ar draws holl safleoedd Gogledd Cymru.

Mae Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio Cymru, wedi croesawu’r peilot sy’n dechrau yng Ngogledd Cymru.

Dywedodd: “Mae’n wych gweld y gwasanaeth Call 4 Concern yn cael ei dreialu yng Ngogledd Cymru a bydd yn helpu i wella diogelwch a gofal cleifion. Edrychaf ymlaen at weld canlyniad y peilot a’r manteision i gleifion a’u teuluoedd.”