Neidio i'r prif gynnwy

Staff yr adran fasgwlaidd yn derbyn anrheg 'arbennig' ar ôl achub perthynas gariadus 50 mlwydd oed

05/10/21

Roedd cerflun cywrain a chlyfar a anfonwyd at ddau aelod o staff y gwasanaeth fasgwlaidd yn arwydd o fwy na dim ond achub bywyd ar gyfer cwpwl oedd wedi bod yn briod am 50 mlynedd.

Fe wnaeth y cleifion yn adran fasgwlaidd Ysbyty Glan Clwyd (gelwir hwy yn Mr a Mrs A i ddiogelu eu preifatrwydd) anfon anrheg anghyffredin a phersonol at aelodau'r tîm ar ôl llawdriniaeth a wnaeth achub bywyd yng Ngorffennaf eleni.

Gelwid y darnau cerfiedig yn "Swan Lake" ac roeddent yn arwydd o ddiolch gan Mr A (82 mlwydd oed), nid yn unig am unioni'r math mwyaf peryglus o anewrysm, ond hefyd am roi cyfle iddo ailafael yn ei ddiddordeb mewn gwaith coed.

Fe wnaeth sgan i ganfod hernia yn ystod yr haf hwn ddatgelu fod gan Mr A anewrysm aortaidd abdomenol (cyflwr a elwir yn 'A Driphlyg') a allai fod yn farwol, ac fe wnaeth ei feddyg ei gyfeirio i gael triniaeth frys.

Fe wnaeth ei wraig ffonio Mandy Williams, ysgrifenyddes feddygol cyfarwyddwr gwasanaethau fasgwlaidd Gogledd Cymru, Mr Soroush Sohrabi, i gael cymorth a chyngor.

“Buaswn i wedi talu iddo gael ei lawdriniaeth yn breifat oherwydd mae'n golygu cymaint i mi,” meddai Mrs A. “Ond siaradodd Mandy Williams â Kristie Watson, nyrs ymarferydd fasgwlaidd. Y diwrnod canlynol, fe wnaeth Kristie fy ffonio i ac roedd hi'n hollol wych.

“Ni fuaswn i wedi llwyddo i wynebu'r profiad hebddi hi ac fe wnaeth hi gadw mewn cysylltiad yn ystod pob cam o'r daith.

“Cafodd fy ngŵr ei sgan ar y dydd Iau a'r llawdriniaeth ddydd Llun yr wythnos ddilynol.”

Fe wnaeth y llawfeddyg fasgwlaidd Mr Aidas Raudonaitis berfformio llawdriniaeth lwyddiannus â chymorth Dr Owen Rees, ac ar ôl cael ei symud i'r uned adfer ac oddi yno, fe wnaeth Mr A ffonio ei wraig y diwrnod canlynol i ofyn iddi ddod i'w nôl.

Dywedodd hi: “Cefais wybod na fyddai'n gadael yr ysbyty tan ddydd Mercher o leiaf. Pa es i i'w gasglu yn yr ysbyty, roedd yn chwerthin a dywedais ‘mae golwg ofnus iawn arnat ti’.”

Pan gyrhaeddodd adref, roedd poen cefn ar Mr A, felly trefnodd Mandy Williams iddo gael sgan CT arall.

Diolch byth, roedd y sgan yn glir, ac yn sgil ymgynghoriad gyda Mr Raudonaitis, cadarnhawyd fod popeth yn iawn.

Yn ystod ei adferiad, roedd y cyn-dechnegydd, peiriannydd, darlithydd ac athro yn ysu am ailgychwyn cerfio cerfluniau coed cywrain yn ei "ogof dyn".

Mae Mr A yn aelod medrus o Gymdeithas Argaenwaith Cymru, a byddai'n teimlo'n fwyaf cartrefol yn gwneud pethau â'i ddwylo yn ei garej gartref.

Dywedodd Mrs A, sy'n 77 mlwydd oed, fod diddordeb ei gŵr mewn creu pethau yn ffactor sylweddol o ran ei allu i godi ar ei draed ac adfer wedi'r llawdriniaeth.

Eglurodd Mrs A: “Dywedodd ef ‘Fe hoffwn i ddychwelyd i'r garej'. Y garej yw ei 'ogof dyn' a cherfio yw ei hobi. Mae cerfio'r darnau yn gwneud iddo ymlacio ac mae'n rhoi ymdeimlad o lwyddiant iddo. Mae'n eu gwneud ers tro byd.

“Dywedodd ‘beth allwn ni ei wneud i ddiolch i Kristie ac Amanda’? Dywedais i ‘beth am i ti wneud cerfluniau iddyn nhw’?”

Roedd canlyniad y gwaith yn greadigaeth hardd a dyfeisgar sy'n edrych fel alarch o un ongl - ond ar ôl ei droi, gwelir balerina.

“Fe wnaeth bachgen bach weld un o'r cerfluniau roedd wedi'u gwneud a dywedodd ei fod yn debyg i Swan Lake,” meddai Mrs A. “Felly dyna'r enw ddewisodd fy ngŵr iddo. Roedd yn dymuno creu rhywbeth personol ar gyfer Kirstie ac Amanda.”

Roedd Mrs A yn barod iawn i ddiolch i'r tîm llawfeddygol a'r holl staff sy'n cefnogi'r hwb fasgwlaidd yn Ysbyty Glan Clwyd.

Dywedodd hi: “Nid oes gennyf ond canmoliaeth i'r ysbyty. Fe wnaethon nhw achub bywyd fy ngŵr. Mae hynny'n golygu popeth i ni. Mae ein byd ni wedi ailgychwyn ac mae hynny wedi rhoi bywyd i ni.

“Ni allwn i fyw hebddo ac rwyf i mor ddiolchgar am y gwasanaeth rhyfeddol rydym ni wedi'i gael - mae wedi bod yn anhygoel.”

Ychwanegodd, gan chwerthin: “Er nad oes gennym ni unrhyw beth yn gyffredin a dweud y gwir, ac eithrio'r ffaith ein bod ni'n casáu ciwcymbrau – ond rwy'n meddwl y byd ohono ac ni allwn i fyw hebddo.”

Dywedodd Mandy ei bod hi “ar ben ei digon yn derbyn rhywbeth mor glyfar” gan y cwpwl, ac ychwanegodd: “Roedd yn weithred mor ystyriol.”

Dywedodd Kristie, sy'n gweithio yn y gwasanaeth fasgwlaidd ers 25 mlynedd: “Roedd yn rhywbeth mor annisgwyl. Roedd cael rhywbeth wedi'i gerfio'n bersonol ganddo yn anrheg mor arbennig.”