Neidio i'r prif gynnwy

Russell Caldicott

26.03.2023

Russell Caldicott

Mae’r Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro, Carol Shillabeer wedi croesawu Russell Caldicott fel cyfarwyddwr cyllid dros dro newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae Russell yn gyfrifydd cymwysedig, ac yn aelod llawn o Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig, gyda mwy na 25 mlynedd o brofiad o fewn sefydliadau'r GIG.

Bu’n swyddog cyllid ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Walsall yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf, a chyn hynny bu'n gweithio mewn uwch swyddi yn Ysbytai Prifysgol Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Swydd Stafford ac Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Sandwell.

Graddiodd Russell ym Mhrifysgol Birmingham ac mae wedi bod yn weithredydd ar fwrdd Cymdeithas Rheoli Ariannol Gofal Iechyd Gorllewin Canolbarth Lloegr, gan ddarparu cymorth a chyfleoedd ar gyfer datblygu timau cyllid yng Nghanolbarth Lloegr.


Yn weithiwr proffesiynol GIG ymroddedig a phrofiadol, mae wedi dangos ei gefnogaeth er mwyn gwella gofal a datblygu seilwaith, gan gynnwys datblygiad Adran Achosion Brys diweddar gwerth £40m.

Yn Gyfrifydd Ardystiedig Siartredig cymwys, ac yn gymrawd o'r sefydliad, mae Russell hefyd wedi graddio fel Meistr Gweinyddiaeth Busnes (gweithredol) ym Mhrifysgol Birmingham a Rhaglen Arweinyddiaeth Aneurin Bevan y GIG.

Yn aelod o’r Gymdeithas Rheoli Cyllid Gofal Iechyd (HFMA), sy’n cefnogi datblygiad gweithwyr cyllid y GIG, mae Russell wedi cynrychioli’r gymdeithas dramor, dal swydd fel aelod gweithredol, ac mae’n gyn-gadeirydd cangen Gorllewin Canolbarth Lloegr. Yn ogystal, mae wedi derbyn gwobr gan y Gymdeithas Rheoli Cyllid Gofal Iechyd am ei 'Gyfraniad Eithriadol'.

Bydd yn dechrau ar ei swydd newydd o 1 Gorffennaf.

Dywedodd Carol Shillabeer:

“Mae’n bleser mawr gen i groesawu Russell i’n tîm gweithredol, gyda’i gyfoeth o brofiad yng nghyllid y GIG ers dros ddau ddegawd.

“Rydym yn rhannu’r un weledigaeth o ran sicrhau gwelliant cynaliadwy a pharhaol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a’r hyn sy’n angenrheidiol yw sefydlu sylfaen ariannol gadarn. Edrychaf ymlaen at weithio gydag ef i gyflawni hynny.

“Hoffwn hefyd ddangos fy niolch diffuant i Steve Webster, a gamodd i’r adwy i fod yn bennaeth ar y tîm cyllid, a hynny ar fyr rybudd. Mae ei gefnogaeth a'i arweinyddiaeth wedi bod yn amhrisiadwy. Rydym i gyd yn dymuno'r gorau i Steve yn ei ymdrechion yn y dyfodol."

Dywedodd Russell Caldicott:

“Rwy'n falch iawn o fod yn ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac rwy'n gobeithio y bydd fy mhrofiad helaeth ym maes cyllid y GIG yn gaffaeliad i'r Bwrdd.

"Mae sylfaen ariannol gadarn yn gwbl hanfodol, fel gall staff y rheng flaen fwrw ‘mlaen â'r gwaith pwysig o ofalu am ein cleifion. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i ddechrau arni a chael cyfarfod â’r tîm.”