Neidio i'r prif gynnwy

Partneriaeth uchelgeisiol y sector gyhoeddus i ddarparu gofal nyrsio yng Ngwynedd

Mae Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo cynnig i ddatblygu partneriaeth uchelgeisiol gyda Bwrdd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu lleoliadau mewn cartrefi nyrsio o fewn y sir.

Bydd trafodaethau manwl yn cael eu cynnal gyda’r Bwrdd Iechyd i archwilio sut gall y ddau bartner gydweithio i sefydlu model gofal arloesol, di-dor i gyrraedd anghenion trigolion Gwynedd yn y dyfodol.

Mae safle'r hen Gartref Nyrsio Pwylaidd ym Mhenrhos ger Pwllheli wedi'i nodi fel un safle posibl ar gyfer datblygiad posibl pe bai'r camau nesaf yn y cynllun prosiect arfaethedig yn cael eu cymeradwyo.

Bydd y bartneriaeth yn anelu at wella a sicrhau gwell sefydlogrwydd i'r dyfodol mewn perthynas â darpariaeth cartrefi nyrsio yn y sir. Tra bod y Cyngor ei hun yn ddarparwr sylweddol o ofal preswyl, ar hyn o bryd, mae cartrefi nyrsio yng Ngwynedd yn cael eu gweithredu gan ddarparwyr gofal annibynnol neu drydydd sector yn unig. Mae risgiau’n gysylltiedig â dibynnu’n llwyr ar y sector annibynnol i ddarparu gwasanaeth mor hanfodol i bobl agored i niwed sydd angen gofal nyrsio.

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd gyda chyfrifoldeb dros yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant:

“Rwy’n falch iawn bod Cabinet y Cyngor wedi cymeradwyo’r argymhellion radical hyn i ffurfio partneriaeth gyda’n cydweithwyr yn y Bwrdd Iechyd i ystyried ein rôl fel darparwyr gofal nyrsio fel rhan o farchnad ehangach.

“Yn y gorffennol nid yw wedi bod yn bosibl i gyrff cyhoeddus ddarparu gofal nyrsio o fewn cartrefi gofal. Yn anffodus, mae hyn wedi golygu nad yw’r Cyngor a’r Bwrdd Iechyd wedi gallu camu i mewn i helpu i fynd i’r afael â phroblemau capasiti sydd wedi cael effaith negyddol ar ein trigolion. Mae’r problemau hyn yn cynnwys oedi i’n preswylwyr wrth adael yr ysbyty ac i rai trigolion y trawma o orfod derbyn gofal nyrsio ymhell oddi wrth ffrindiau a theulu. Mae’r diffyg darpariaeth hwn wedi’i deimlo fwyaf yn aml yn ein hardaloedd mwy gwledig.

“Mae newidiadau cyfreithiol diweddar yn golygu ein bod yn credu y dylem weithio gyda’n gilydd i archwilio ffyrdd o ddarparu gofal nyrsio hyblyg ac ymatebol ein hunain sydd wedi’i deilwra i anghenion pobl leol.

“Mae’r amcan yn syml - cynyddu ac ategu’r ddarpariaeth nyrsio annibynnol a thrydydd sector rhagorol sydd gennym yng Ngwynedd a thrwy wneud hyn lleihau’r effaith posib o ddibynnu’n llwyr ar rymoedd y farchnad agored wrth ofalu am bobl fregus mewn ardal wledig fel Gwynedd. Rhagwelwn y byddai hyn yn rhoi gwell sicrwydd i’n trigolion o ran sicrhau lleoliadau priodol a hefyd yn sicrhau gofal dwyieithog o safon uchel yn lleol.

“Os yn llwyddiannus, bydd ein cynlluniau’n dod â sefydlogrwydd i’r sector gofal nyrsio lleol, yn darparu hyblygrwydd mewn argyfyngau pan fo anghenion yn newid yn gyflym ac yn lleihau’r risgiau i’r Cyngor a’r Bwrdd Iechyd.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Morgan y bydd y cynigion yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol i breswylwyr a staff. Esboniodd: “Gall bod yn ddibynnol ar rymoedd y farchnad roi ein preswylwyr bregus mewn sefyllfa fregus – er enghraifft, rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun y pryder a achosir os bydd cartref nyrsio preifat yn rhoi’r gorau i fasnachu ar fyr rybudd.

“Bydd ein cynigion hefyd yn well i staff – ein nod yw cynnig swyddi hirdymor o ansawdd gyda dilyniant gyrfa ar draws anghenion gofal i bobl leol yn y sector.

“Fel Cyngor, rydyn ni’n falch iawn o’r ffordd rydyn ni’n gwthio’r ffiniau o ran darparu gwasanaethau o safon. Edrychwn ymlaen yn awr at weithio gyda chydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar y fenter gyffrous hon sydd â’r potensial i osod Gwynedd ar flaen y gad o ran gofal nyrsio ar lefel genedlaethol.”

Dywedodd Jo Whitehead, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd ar y cynnig hwn i ddarparu darpariaeth cartref nyrsio yn y sir.

“Bydd angen cynllunio manwl ar gyfer y fenter hon ac mae ceisio recriwtio staff yn heriol iawn i’r mwyafrif o ddarparwyr gofal yng Ngwynedd.

“Rydym yn y broses o drafod opsiynau gyda phrifysgolion lleol sy’n darparu cyrsiau nyrsio yn ogystal ag edrych ar greu cyfleoedd i’n staff nyrsio sydd eisoes yn gweithio yn y Bwrdd Iechyd.”

Nodiadau:

- Ar hyn o bryd mae Cyngor Gwynedd yn darparu 50% o holl ddarpariaeth gofal preswyl y sir, gyda'r sector annibynnol yn darparu'r gweddill. Mewn cyferbyniad, mae'r sector annibynnol ar hyn o bryd yn darparu'r holl ddarpariaeth cartrefi nyrsio yn y sir.

- Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Gwynedd wedi cyfarfod â Phrif Weithredwr y Bwrdd Iechyd a Chyfarwyddwr Ardal Gorllewin y Bwrdd Iechyd i drafod yr achos dros newid. Arweiniodd y cyfarfod hwn at gefnogaeth mewn egwyddor i'r newid.

 - Bydd Achos Busnes Strategol Amlinellol ar gyfer y cynigion hyn yn cael ei gynnal erbyn hydref 2022 a'i gyflwyno i Gabinet y Cyngor. Os caiff ei gymeradwyo gan y Cabinet a’r Bwrdd Iechyd, rhagwelir y bydd gwaith yn dechrau ar ddatblygiad partneriaeth sector cyhoeddus arloesol ar safle Penrhos cyn gynted â phosibl.