Mae nyrs a gafodd wellhad gwyrthiol ar ôl bod mewn damwain car yn awr yn gofalu am gleifion ochr yn ochr â'i chydweithwyr yn ystod y pandemig COVID-19.
Roedd Megan Morris yn teithio adref yn agos i Ddolgellau wyth mlynedd yn ôl pan gollodd reolaeth o'i char mewn tywydd garw. Oherwydd ei hanafiadau a oedd yn bygwth bywyd cafodd ei symud i Ganolfan Frenhinol Trawma Mawr Stoke.
Ar ôl bron i saith wythnos ar yr Uned Gofal Dwys, llwyddodd Megan i wneud yr amhosibl a gwella'n llawn ar ôl treulio dros wyth mis yn yr ysbyty.
Ar ôl cael profiad a newidiodd ei bywyd, dywedodd Megan, sy'n 25 oed, bod ganddi ymdeimlad mawr o ddyled i'r GIG.
Dywedodd: "Roedd pethau'n edrych yn wael iawn am amser hir pan oeddwn ar yr uned gofal dwys. Roedd yn wyrthiol yn ei hun fy mod yn dal yn fyw o ystyried fy anafiadau ond bu sawl cam yn ôl - cafodd fy nheulu wybod hyd yn oed petawn yndeffro, y byddai gennyf anableddau am byth oherwydd yr anafiadau trychinebus a gefais i fy mhen. Dechreuodd fy rhieni feddwl am brynu tŷ sydd wedi'i addasu'n well ar gyfer cadair olwyn.
"Roedd y meddygon a'r nyrsys ond yn gallu gwneud eu gorau i mi, ac roedden nhw wir yn gwneud hynny hefyd. Ond mae'r ffaith fy mod wedi gwella'n llwyr a fy mod yn awr yn gweithio fel nyrs yn wyrth!
"Ar ôl cael profiad mor radical, gadewais yr ysbyty gydag ymdeimlad mawr o ddyled i'r GIG.
"Pan ddechreuais astudio eto ar ôl y ddamwain roeddwn yn gwybod fy mod eisiau 'rhoi'n ôl' i'r gwasanaeth a oedd wedi rhoi gymaint i mi.
"Roeddwn rhwng dau feddwl un ai i astudio meddygaeth neu nyrsio ac nid oeddwn yn gallu penderfynu. Dim nes i rywun ofyn i mi "pwy wnes di werthfawrogi fwyaf pan oeddet ar dy wely yn yr ysbyty?" y gwnes i sylweddoli gyda safbwynt newydd mai nyrsio oedd yr alwedigaeth i mi.
"Roedd y nyrsys yno i mi ar gyfer bob awr o'r dydd - boed hynny am sgwrs am hanner nos neu i addurno’r ystafell ddydd yn yr uned adsefydlu ar gyfer fy mhen-blwydd yn ddeunaw oed.
"Gan fy mod wedi bod yn glaf mewn gwely ysbyty fy hun, rwyf wedi cael safbwynt unigryw sy'n rhoi uchelgais i mi ddarparu'r un lefel o ofal a gefais gan y nyrsys arbennig i eraill.
"Gallaf uniaethu â'r cleifion yr wyf yn gofalu amdanynt ar lefel arall a gallaf ddod yn eiriolwr iddynt mewn ffordd sy'n aml yn bersonol. Rwy'n meddwl ei fod yn fraint cael gofalu am eraill pan fyddent fwyaf bregus fel yr oeddwn i ar un adeg."
Dywedodd Megan a ddechreuodd fel nyrs newydd gymhwyso yn Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd ym mis Hydref 2019 nad oedd erioed wedi disgwyl y bydd angen iddi ddelio â phandemig byd-eang o fewn y chwe mis cyntaf o gymhwyso.
Dywedodd: "Roedd dechrau fel nyrs yn yr Adran Achosion Brys lle cefais fy nhrin yn gyntaf ar ôl cael fy namwain yn arwyddocaol iawn i mi. Mewn ffordd, roedd yn 'gylch llawn' dwys a oedd ond yn pwysleisio pa mor bell a gwyrthiol y mae fy ngwellhad wedi bod.
"Fodd bynnag, y peth diwethaf feddyliais fyddai’n digwydd yn ystod fy ngyrfa, heb sôn am fy mlwyddyn gyntaf, oed pandemig byd-eang!
"Er fy mod y tu allan i fy nghylch cyfforddus, rwy'n gwneud fy ngorau i feddu ar agwedd bositif a pharodrwydd i ddysgu a datblygu sgiliau newydd gan fod hwn yn gyfle mor unigryw.
"Mae'r tîm yr wyf yn gweithio gyda nhw yn wych ac yn gefnogol iawn. Mae yna deimlad o undod yn y dasg sydd o'n blaen - ein bod ynddo gyda'n gilydd."
Dywed Megan fod yr ewyllys da a ddangoswyd i'r GIG ac i Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd yn ystod y cyfnod hwn wedi cael ei werthfawrogi'n fawr ganddi hi a'i chydweithwyr.
"Mae'n hyfryd gweld lluniau'r enfys mewn ffenestri ar hyd y wlad sy'n rhoi'r ymdeimlad o barch ac anogaeth i ni yn y GIG - fodd bynnag, y gwirionedd yw y bydd y GIG bob amser yn camu ymlaen i wynebu'r her a byddwn yn parhau i ddarparu gofal dan yr amgylchiadau mwyaf anffafriol.
Ychwanegodd, “Fy ngobaith yw y bydd COVID-19 yn llywio newid sydd wir ei angen yn y ffordd y mae'r GIG yn cael ei weld. Bod y GIG yn cael ei flaenoriaethu a'i amddiffyn o rŵan ymlaen, yn ogystal â chael y gydnabyddiaeth a'r ganmoliaeth y mae wastad wedi'i haeddu."
Ychwanegodd, "Fy ngobaith yw y bydd pethau'n newid er gwell ar ôl i hyn ddarfod a bod y GIG yn parhau i gael y gydnabyddiaeth a'r ganmoliaeth y mae wastad wedi'i haeddu."