Neidio i'r prif gynnwy

Meddyg Teulu yn derbyn achrediad uchaf i helpu clinigwyr eraill i ddarparu gwasanaeth canser y croen o fewn gofal sylfaenol

07.02.23

Mae meddyg teulu sydd â diddordeb brwd mewn trin canser y croen bellach yn cefnogi clinigwyr eraill i wneud diagnosis ac weithiau i drin y cyflwr yn eu practisau.

Dr Jonathan Bertalot yw’r cyntaf yng Nghymru i ddod yn Feddyg Teulu achrededig Cymdeithas Dermatoleg Prydain (BAD) gyda Rôl Estynedig (GPwER) mewn Rheoli Nam ar y Croen. Mae hyn yn golygu y gall nawr weithredu fel goruchwyliwr i feddygon teulu eraill sy'n dymuno gwneud cais am yr un achrediad.

Mae Dr Bertalot wedi gweithio fel Meddyg Arbenigol mewn Dermatoleg dros y chwe blynedd diwethaf. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn canser y croen ac mae wedi bod yn darparu cwrs llawfeddygol addysgu achrededig Addysg Gwella Iechyd Cymru (HEIW) i feddygon teulu lleol i’w helpu i ddarparu gwasanaethau llawfeddygol yn eu practisau eu hunain.

Mae hyn nid yn unig yn helpu i ddatblygu sgiliau meddygon teulu yn yr ardal ond hefyd yn lleihau nifer yr atgyfeiriadau i Ysbyty Gwynedd.

Dywedodd Dr Bertalot, sy’n bartner ym Meddygfa Coed y Glyn yn Llangefni: “Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae meddygon teulu wedi bod yn awyddus iawn i ddarparu gwasanaeth o fewn eu practisau eu hunain i wneud diagnosis o ganser y croen.

“Yn ystod y cyfnod cloi, cynhaliais gwrs addysgu ar-lein a oedd yn boblogaidd iawn gyda llawer o feddygon teulu dan hyfforddiant hefyd yn cymryd rhan.

“Mae meddygon teulu mewn sefyllfa ddelfrydol i wneud diagnosis ac weithiau i drin cleifion yr amheuir bod ganddynt ganser y croen gan mai ni yw’r man galw cyntaf.

“Mae llawer o gleifion yn aml yn cael eu gweld gan eu meddyg teulu ac yna’n cael eu cyfeirio’n syth i’r ysbyty acíwt i gael archwiliad a biopsi, a all achosi pryder i’r claf yn ystod y cyfnod aros hwnnw.

“Gallaf dynnu’r man du yn fy mhractis neu mewn clinig yn Ysbyty Alltwen, ei anfon i gael biopsi a chael y canlyniadau o fewn ychydig wythnosau. Os oes angen archwiliad pellach ar glaf yna gallaf gyfeirio at ofal eilaidd.

“Yn dilyn fy achrediad rwy’n gobeithio annog mwy o feddygon teulu i allu darparu gwasanaethau llawfeddygol o fewn eu practisau eu hunain a fydd yn darparu gwell profiad i gleifion yn ogystal â lleihau’r pwysau ar yr ysbyty acíwt.”

Mae gan Dr Bertalot brofiad helaeth o ganser y croen ac mae wedi gweithio yn Awstralia am gyfnod o amser yn gweithio ochr yn ochr â chlinigwyr eraill i ddysgu mwy am y clefyd.

“Canser y croen yw’r math mwyaf cyffredin o ganser yn y DU, ac mae nifer y bobl sy’n cael diagnosis o’r cyflwr wedi codi’n sylweddol ers y 1970au.

“Mae bob amser yn bwysig bod yn ymwybodol o’r haul, rwy’n gwybod ein bod yn ystod misoedd y gaeaf ar hyn o bryd ond wrth i ni fynd i mewn i’r misoedd cynhesach mae’n bwysig cofio defnyddio eli haul bob amser a pheidio byth â gadael i’ch hun losgi.

“Mae modd trin canser y croen ond mae diagnosis cynnar yn allweddol. Eich meddyg teulu ddylai fod yn fan cyswllt cyntaf os byddwch yn sylwi ar rywbeth nad yw’n diflannu o fewn ychydig wythnosau neu os ydych yn pryderu am unrhyw fannau duon newydd neu rai sy’n newid,” ychwanegodd Dr Bertalot.