Neidio i'r prif gynnwy

Mae angen gwirfoddolwyr ar gyfer treial brechlyn i helpu i frwydro yn erbyn straenau COVID-19 yn y dyfodol

03/10/2022

Mae ymchwilwyr yn annog pobl i gymryd rhan mewn treial clinigol brechlyn COVID-19 newydd yn Wrecsam.

Mae'r treial yn ymchwilio i'r brechlyn COVID-19 ail genhedlaeth sydd wedi'i gynllunio i amddiffyn rhag heintiau difrifol yn cynnwys straenau presennol a rhai newydd posibl mewn oedolion 18 i 59 oed.

Mae'r astudiaeth, sy'n cael ei chynnal gan Gritstone Bio, cwmni biotechnoleg sy'n datblygu imiwnotherapïau a brechlynnau canser a chlefydau heintus, yn cael ei darparu gan Gyfleuster Ymchwil Clinigol Gogledd Cymru yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Mae'r treial yn chwilio am wirfoddolwyr sydd eisoes wedi derbyn naill ai'r brechlyn Moderna neu Pfizer/BioNTech sydd wedi cael y pigiadau atgyfnerthu awdurdodedig neu beidio, ac sydd heb hanes blaenorol o haint COVID-19 yn ystod yr 16 wythnos diwethaf (tua 4 mis).

Dywedodd Dr Orod Osanlou, Prif Ymchwilydd yr astudiaeth a Chyfarwyddwr Cyfleuster Ymchwil Clinigol Gogledd Cymru: “Mae hon yn astudiaeth gyffrous, a fydd yn targedu llawer o wahanol rannau o’r Coronafeirws SARS-CoV-2. Mae'n targedu'r protein spigyn, sef targed y brechlynnau rydym yn eu defnyddio ar hyn o bryd, yn ogystal â rhannau eraill o'r firws. Bydd y treial yn asesu a all y dull hwn ddarparu gwell imiwnedd yn erbyn COVID-19."

Bydd gwirfoddolwyr yn cael eu sgrinio i dderbyn o leiaf dau ddos o frechlyn COVID-19. Bydd yr asesiadau sgrinio yn cynnwys cyfweliad i wirio eich hanes meddygol, archwiliad corfforol, arwyddion bywyd, samplau gwaed, a phrawf swab trwyn."

Ar ôl eu derbyn i'r treial, mae gwirfoddolwyr yn cael eu brechu yn y clinig ac yn cael eu monitro am 45 munud i sicrhau eu bod yn teimlo'n iach cyn mynd adref. Ar ôl pedair wythnos bydd gwirfoddolwyr wedyn yn derbyn ail ddos y brechlyn COVID-19. Bydd gwirfoddolwyr hefyd yn cael ymweliadau meddygol rheolaidd i asesu eu hiechyd a bydd samplau gwaed yn cael eu cymryd i fesur imiwnedd i COVID-19.

Bydd yr astudiaeth yn cynnwys gwirfoddolwyr yn teithio i’r cyfleuster ymchwil yn Ysbyty Maelor Wrecsam dros gyfnod o 13 mis yn fras, a chaiff costau teithio a chostau rhesymol eraill eu had-dalu i’r gwirfoddolwyr.

Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cymorth a Chyflenwi yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy’n goruchwylio’r holl ymchwil ledled Cymru: “Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Cymru wedi gwneud cyfraniad sylweddol at ymchwil COVID-19 gan gynnwys y rhaglen treialu brechlynnau. Diolch eto i bawb sy’n parhau i roi o’u hamser drwy hwyluso a chymryd rhan yn yr astudiaeth hon.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r treial, cysylltwch â BCU.Gritstone@wales.nhs.uk i drefnu apwyntiad, neu am ragor o wybodaeth ffoniwch 03000 858032