Neidio i'r prif gynnwy

Lansio Arolygon SMS newydd i helpu i wella profiad cleifion

15/06/2023

Gofynnir nawr i bobl sy'n mynychu apwyntiad cleifion allanol yn un o'n hysbytai, clinigau neu ganolfannau meddygol gwblhau arolwg byr o'u profiad i helpu i gasglu gwybodaeth am wasanaethau.

O ddydd Llun, 19 Mehefin, ymlaen bydd pobl yn derbyn neges SMS gyda gwahoddiad i gwblhau arolwg y diwrnod ar ôl eu hapwyntiad. I ddechrau, bydd hyn ar gyfer pobl sy’n mynychu ein hadran cleifion allanol ac sy'n hŷn na 18 mlwydd oed.

Dywedodd Rachel Wright, Arweinydd Profiad Cleifion a Gofalwyr: “Rydym o hyd yn edrych ar ffyrdd y gallwn wella ein hymgysylltiad â chleifion, perthnasau a gofalwyr a darparu cyfleoedd pellach i gael adborth am ein gwasanaethau.

“Bydd yr Arolwg SMS yn rhoi ffordd gyfleus a chyfrinachol i gleifion ddweud wrthym am eu profiad mewn apwyntiad diweddar. Gallwn gasglu gwybodaeth werthfawr y gellir ei defnyddio i nodi meysydd lle rydym yn gwneud yn dda, yn ogystal â chael gwybod am feysydd y mae angen i ni eu gwella.”

Ni ofynnir am unrhyw fanylion personol i bobl sy'n derbyn neges gyda dolen yn eu gwahodd i gwblhau'r arolwg cyfrinachol. Mae opsiwn i beidio derbyn arolygon trwy SMS trwy ddilyn dolen a ddarperir yn y neges.