Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr annisgwyl i sylfaenydd gwasanaeth llesiant staff y GIG

09.02.23

Mae aelod o staff y GIG sydd wedi darparu ‘gofal diddiwedd’ i gydweithwyr drwy wasanaeth cymorth lles arloesol wedi cael gwobr annisgwyl.

Isabelle Hudgell, Arweinydd Hyfforddiant a Datblygiad Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu (MHLD) Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw enillydd diweddaraf gwobr Seren Betsi, sy’n cydnabod gwaith caled ac ymroddiad staff y GIG ar draws Gogledd Cymru.

Mae Isabelle wedi’i chydnabod am ddatblygu ‘Lles, Gwaith a Ni’ – gwasanaeth llesiant sy’n darparu amrywiaeth o gymorth i staff unigol a thimau yn yr Uwch Adran MHLD.

Mae hyn yn cynnwys mynediad at gwnselwyr a hyfforddwyr cymwys, sy’n cynnig sesiynau cyfrinachol dros y ffôn, technoleg fideo, ac wyneb yn wyneb mewn lleoliadau gwaith, gan gynnwys y Ganolfan Adnoddau Llesiant Staff bwrpasol yn Ysbyty Bryn y Neuadd yn Llanfairfechan, y chwaraeodd Isabelle ran arweiniol yn ei sefydlu.

Mae’r ganolfan yn cynnig lle penodol i staff sy’n gweithio’n galed ymlacio, cymryd ychydig amser iddyn nhw eu hunain a chael cymorth ar gyfer eu hiechyd meddwl a’u llesiant.

Mae Carys Jones, Rheolwr Gwasanaeth Cymunedol Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Anabledd Dysgu yn un o gannoedd o staff sydd wedi elwa ar  wasanaeth Lles, Gwaith a Ni. Enwebodd Isabelle ar gyfer y wobr, gan ei chanmol am fynd ‘y filltir ychwanegol’ i’w chefnogi yn ystod absenoldeb o’r gwaith, yn ddiweddar.

“Ar ôl profi digwyddiad personol anodd yn y gwaith a arweiniodd at fod yn absennol o’r gwaith am 14 wythnos, aeth Isabelle gam ymhellach gyda chefnogaeth ddiddiwedd ar bob awr o’r dydd yn ystod fy nghyfnod o salwch,” esboniodd.

“Roedd hi bob amser yn galonogol ac yn dangos gofal diddiwedd. Yn ystod fy nghyfnodau anoddaf cefais dawelwch meddwl a gwnaed i mi deimlo’n ddiogel o wybod bod Isabelle yno ar ben arall ffôn unrhyw adeg o’r dydd pan oedd angen i mi siarad.

“Byddaf yn ddiolchgar i Isabelle am byth ac rwy’n credu’n gryf y byddai fy siwrnai wedi dod i ben yn wahanol iawn heb ei gofal a’i chefnogaeth. Rwy'n falch o fod wedi dychwelyd i'r gwaith. Mae ansawdd fy mywyd wedi gwella ac ni fyddai wedi bod yn bosibl heb Isabelle.”

Wrth gyflwyno’r wobr i Isabelle, dywedodd Carole Evanson – Cyfarwyddwr Gweithrediadau Dros Dro Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu BIPBC:


“Nid oes unrhyw un yn fwy haeddiannol o’r wobr hon, gan fod cymorth lles staff mor agos at galon Isabelle ac mae hi’n mynd y tu hwnt i’w rôl yn gyson i sicrhau bod hyn yn cael ei gyflwyno i bawb sydd ei angen.

“Mae’r wobr hon yn bwysicach fyth gan fod yr enwebiad wedi’i wneud gan rywun sydd wedi elwa o’r gefnogaeth hon.”

Wrth siarad yn fuan ar ôl derbyn y wobr yn y Ganolfan Adnoddau Lles Staff, dywedodd Isabelle:

“Mae popeth rydyn ni wedi’i gyflawni yma oherwydd ein bod ni wedi gweithio gyda’n gilydd arno – gan gynnwys ein tîm gwych Lles, Gwaith a Ni, y staff niferus sydd wedi defnyddio Gwasanaeth WW&U a rheolwyr sy’n hwyluso staff i gael mynediad at gymorth. Heb anghofio am ein tîm ystadau Bryn-Neuadd sydd bob amser yn barod i drwsio, paentio, cysylltu a chreu’r gofodau yn y ganolfan Llesiant i ni.

Ni allwn danamcangyfrif effaith y rhyngweithio y mae ein staff yn ei gael gyda defnyddwyr gwasanaeth, a gyda’i gilydd, felly mae buddsoddi yn llesiant staff ac ymrwymo i’w cefnogi yn allweddol”.