Neidio i'r prif gynnwy

Gweithdrefn i wneud diagnosis o anhwylderau'r ysgyfaint bellach ar gael yn Ysbyty Gwynedd

23 Mehefin 2023

Mae ymchwiliad hanfodol wrth wneud diagnosis a graddoli canser yr ysgyfaint bellach ar gael i gleifion yn Ysbyty Gwynedd.

Mae broncosgopi EBUS (uwchsain endobroncaidd) yn driniaeth a ddefnyddir i wneud diagnosis o wahanol fathau o anhwylderau'r ysgyfaint, gan gynnwys llid, haint neu ganser.

Mae broncosgopi EBUS, a wneir dan law meddyg, yn defnyddio tiwb hyblyg sy'n mynd trwy'r geg ac i mewn i'r bibell wynt a'r ysgyfaint. Mae hwn wedi'i gysylltu â stiliwr uwchsain bychan sy'n galluogi'r meddyg i weld yr ysgyfaint a'r chwarennau lymff sy'n gorwedd wrth ochr y llwybrau anadlu.

Mae'r stiliwr uwchsain yn cynhyrchu tonnau sain sy'n cael eu trosi'n lluniau gan gyfrifiadur. Yna gall y meddyg ddefnyddio nodwydd fain iawn i gymryd sampl meinwe o'r lle cywir. Yna mae'r sampl yn cael ei anfon i ffwrdd am fwy o brofion er mwyn helpu i gael diagnosis.

Cynt, dim ond yn Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam yr oedd gwasanaeth EBUS yn cael ei gynnig, gan olygu y byddai cleifion o Wynedd ac Ynys Môn yn teithio ymhellach ar gyfer y driniaeth hon.

Meddai’r Meddyg Anadlol Ymgynghorol, Dr Ali Thahseen, sy’n cynnal y driniaeth yn Ysbyty Gwynedd: “Mae’n wych ein bod yn gallu cynnig y gwasanaeth hwn i’n cleifion yn Ysbyty Gwynedd erbyn hyn.

“Cynt, byddai cleifion yn cael y driniaeth hon yn y ddau ysbyty arall sydd gennym a byddai rhai o’n cleifion bregus yn ei chael hi’n anodd teithio mor bell.

Oherwydd bod hwn ar gael gennym ym Mangor mae’n osgoi amseroedd aros hirach i’n cleifion a hefyd llai o deithio.

“Mae’r driniaeth hefyd yn cael ei gwneud ar ddiwrnod eu hapwyntiad claf allanol cyntaf, sy’n golygu nad ydyn nhw’n aros am bythefnos neu dair wythnos ychwanegol er mwyn cael eu gweld yn rhywle arall.”

Diolch i Grŵp Codi Arian Uned Canser a Haematoleg Alaw, mae’r rhodd o dros £60,000 yn galluogi'r tîm i brynu ail endosgop a fydd yn eu helpu i weld mwy o gleifion.

Dywed Pennaeth Partneriaethau Elusennol a Chronfeydd Elusennol y Bwrdd Iechyd, Kirsty Thomson:

“Mae pwyllgor a gwirfoddolwyr Grŵp Codi Arian Alaw wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau codi arian ac wedi agor siop elusen dros dro yng Nghaergybi i godi’r arian i ariannu’r ail endosgop. Roedd cynrychiolwyr o’r grŵp wrth eu bodd yn cyfarfod â Dr Thahseen yn ddiweddar i ddysgu sut y bydd yr EBUS – a’u rhodd – yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i gleifion lleol a’u teuluoedd.

”Rydym mor ffodus i gael cefnogaeth y grŵp, sydd eisoes yn dechrau codi arian ar gyfer stiliwr-rheiddiol ychwanegol ar gyfer yr EBUS. Ar ran fy nghydweithwyr a’n cleifion, hoffwn ddiolch o galon i bawb sydd wedi cefnogi Grŵp Codi Arian Alaw.”