Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth 111 yn cael ei lansio yng Ngogledd Cymru ddydd Mawrth 22 Mehefin 2021

16/06/21

Bydd cleifion yng Ngogledd Cymru yn gallu ffonio 111 i gael mynediad am ddim at ofal meddygol brys y tu allan i oriau a chefnogaeth ac arweiniad iechyd rownd y cloc o’r wythnos nesaf.

Gellir cael gwybodaeth a chyngor iechyd hefyd ar wefan GIG 111 Cymru, sy’n cynnwys gwirwyr symptomau ar-lein ar gyfer cwynion a chyflyrau cyffredin.

Bydd y gwasanaeth GIG 111 Cymru newydd yn cael ei lansio yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am hanner dydd, ddydd Mawrth Mehefin 22.  

Mae’r rhif hawdd ei gofio am ddim i’w ffonio o linellau tir a ffonau symudol ac mae’n darparu mynediad at y gwasanaethau MT y tu allan i oriau a chyngor iechyd gan GIG Cymru.  Bydd yn helpu cleifion i gael yr wybodaeth, arweiniad a’r driniaeth orau yn y lle cywir ar yr amser cywir.

Gogledd Cymru yw’r ardal ddiweddaraf yn y wlad i gyflwyno’r gwasanaeth cenedlaethol dan arweiniad staff clinigol hwn.

Gall galwyr dderbyn cyngor iechyd dros y ffôn, eu gwahodd i fynychu Uned Mân Anafiadau neu drefnu apwyntiad brys gyda’r MT y tu allan i oriau yn dibynnu ar eu symptomau.

Nes bydd y gwasanaeth yn cael ei drosglwyddo am hanner dydd ar Fehefin 22, dylai cleifion barhau i gysylltu â Galw Iechyd Cymru ar 0345 46 47 neu’r Gwasanaeth MT y tu allan i oriau ar 0300 123 55 66.

Meddai Dr Chris Stockport, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Gofal Cychwynnol a Chymuned ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

“Bydd cyflwyno GIG 111 Cymru yn ein hardal yn helpu pobl ledled Gogledd Cymru i gael y gefnogaeth gofal iechyd sydd ei angen arnynt am ddim ac mewn ffordd sy’n gweddu iddyn nhw - a bydd hefyd yn cyflawni buddion i gleifion ac i’r gwasanaeth iechyd.  

“Ar ôl y lansiad yr wythnos nesaf, bydd y rhai sy’n ffonio’r rhif 111 syml a chofiadwy yn derbyn cyngor arbenigol ac arweiniad ar unrhyw amser. Byddant yn cael eu hasesu’n llawn ac os bydd angen iddynt gael eu gweld gan feddyg neu weithiwr gofal iechyd arall y tu allan i oriau tra bydd eu meddygfa nhw ar gau, bydd hyn yn cael ei drefnu.  

“Nawr mae gan gleifion ffordd hawdd iawn o gael mynediad at wybodaeth gofal iechyd a gofal brys 24/7.  Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn helpu pobl i gael yr wybodaeth, yr arweiniad a’r driniaeth gywir, yn y lle cywir ar yr amser cywir.”

Mewn argyfwng, dylai cleifion fynychu un o’n hadrannau achosion brys neu ddeialu 999 am ambiwlans.   

Dywedodd Richard Bowen, Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer GIG 111 Cymru:

“Gall cael mynediad at wasanaethau gofal brys fod yn ddryslyd iawn ac os ydych chi’n aelod o’r cyhoedd – gall fod yn anodd gwybod pa wasanaethau sydd ar gael a phryd, a pha weithiwr proffesiynol neu wasanaeth gofal iechyd sydd orau i ymdrin â’ch anghenion.  

“Mae GIG Cymru am wneud pethau’n haws i gleifion, felly o Fehefin 22, bydd pobl sy’n byw yn ardal Betsi Cadwaladr nawr angen ffonio un rhif yn unig – 111 am ystod o gyngor a chefnogaeth gofal iechyd.  

“Mewn cyfnod o bwysau enfawr ar y gwasanaeth iechyd, mae’n wych gallu gweithio gyda gweithwyr iechyd proffesiynol gan gynnwys nyrsys, MT, fferyllwyr a pharafeddygon i sicrhau fod cleifion yn cael yr help sydd ei angen arnynt mor effeithiol ac effeithlon ag sy’n bosibl.”

Mae GIG 111 Cymru wedi’i staffio gan dîm mawr o nyrsys, meddygon a fferyllwyr, a dwsinau o ymdrinwyr galwadau newydd wedi’u hyfforddi i lefel uchel.  Mae’r gwasanaeth yn cael ei weithredu gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru o leoliadau ar draws Cymru, gan gynnwys mewn canolfan fawr yn Llanelwy.