Neidio i'r prif gynnwy

Maethegwr ymroddgar yn cyrraedd rhestr fer am wobr genedlaethol fawreddog ym maes maetheg

19/05/2023

Mae cyfle ar gael ar hyn o bryd i bleidleisio dros Paula Edwards, ein Nyrs Arbenigol Arweiniol ym maes Maetheg Glinigol, sydd wedi cyrraedd rhestr fer am Wobr 'Cyflawniad Eithriadol'. Cyhoeddir enw'r enillydd yn seremoni Gwobrau Clinical Nutrition (CN), sy'n cael ei chynnal yn fuan.

Mae Paula, sy'n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), wedi cael ei henwebu am un o Wobrau CN gan Jane Power, Dirprwy Bennaeth Dieteteg ac Arweinydd y Tîm Acíwt yn Nwyrain BIPBC, am ei gwaith ymroddgar a chyson dros y 24 blynedd ddiwethaf.

Dywedodd Jane: “Mae Paula yn Nyrs Glinigol Arweiniol Maetheg Glinigol ysbrydolgar, frwdfrydig, egnïol ac ymroddgar yn BIPBC.

“Dros y 24 blynedd ddiwethaf, mae Paula wedi mynd ati'n gyson i sefydlu a gweithredu gwelliannau o ran gofal a diogelwch yn ymwneud â maetheg, gan roi sylw heb ei ail i anghenion cleifion. Mae hyn wedi cynnwys gwaith beunyddiol gofalu am gleifion ym meysydd gofal sylfaenol ac eilaidd, cynllunio a rhedeg rhaglenni addysg a hyfforddiant, a gweithio'n strategol yn y Bwrdd Iechyd ac ar y cyd â phartneriaid cenedlaethol gan reoli tîm o Nyrsys sy'n Arbenigo ym Maes Maetheg ar yr un pryd. Mae hi'n uwcharwres go iawn.

“I'w galluogi i wneud gwahaniaeth er gwell, mae personoliaeth Paula a'i sgiliau rhwydweithio yn ei galluogi i ryngweithio'n ddidrafferth ag ystod eang o randdeiliaid, yn cynnwys comisiynwyr, timau caffael neu Brif Swyddog Nyrsio Cymru, ymhlith nifer o rai eraill.”

Mae cyflawniadau Paula yn ystod ei gyrfa yn cynnwys datblygu llwybr Coeden Penderfyniadau ynghylch Bwydo â Thiwb o'r Trwyn i'r Stumog BIPBC i gynorthwyo cleifion a staff nyrsio a meddygol i gyflawni dull cyfannol diogel, gan leihau'r risgiau a sicrhau y rhoddir y driniaeth briodol ar yr adeg briodol ac yn y lle priodol.

Fe wnaeth Paula ddatblygu dogfennau allweddol ym maes maetheg yn BIPBC, gan gynnwys rhai yn ymwneud â maethiad trwy wythïen a bwydo â thiwb. Fe wnaeth hi hefyd gynorthwyo i ddatblygu Gwasanaeth Maethiad trwy Wythïen ar y cyd â Rhwydwaith Maethiad trwy Wythïen i Oedolion Cymru.

Ychwanegodd Jane: “Mae Paula yn ysbrydolgar, a phe gallem botelu ei hegni, ei phrofiad a'i hawydd a gwerthu'r poteli hynny, buasent yn gwerthu yn eu miloedd. Rydym yn falch iawn o'i holl gyflawniadau a ffrwyth ei gwaith y bydd ei holynwyr yn elwa ohono. Mae Paula yn enwebai perffaith am y Wobr Cyflawniad Eithriadol yn ystod blwyddyn ei hymddeoliad, ac mae'n enwebiad hollol haeddiannol.”

Dywedodd Paula: “Hoffwn ddiolch i Jane a gweddill aelodau'r tîm am fy enwebu i. Roedd cael gwybod fy mod i wedi cael fy enwebu ac wedi cyrraedd rhestr fer y wobr hon yn newyddion hyfryd, yn enwedig yn ystod blwyddyn fy ymddeoliad. Diolch i bawb a wnaiff bleidleisio i mi. Rwyf i wedi mwynhau gyrfa wych ac rwy'n ymfalchïo ynddi, ac mae hyn yn goron ar y cyfan.”

Mae Gwobrau CN yn cydnabod gwaith gwych sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol er gwell yn y diwydiant maetheg, gan unigolion, grwpiau neu sefydliadau. 

Gallwch chi bleidleisio dros Paula yma. Daw'r pleidleisio i ben ar 20 Gorffennaf 2023.