Neidio i'r prif gynnwy

Cynhaliodd Dyfed Edwards ymweliad trawsffiniol yr wythnos hon gan ymweld ag Ymddiriedolaethau Sefydledig GIG Ysbyty Plant Alder Hey ac Ysbyty'r Galon a'r Frest Lerpwl

26/07/2023

 

Gwnaeth ein Cadeirydd, Dyfed Edwards gynnal ymweliad trawsffiniol yr wythnos hon i drafod trefniadau gweithio mewn partneriaeth sy’n helpu i ddarparu gwasanaethau gofal arbenigol ar gyfer miloedd o bobl o bob rhan o ogledd Cymru bob blwyddyn.

 

Gwnaeth Dyfed gyfarfod â’i gymheiriaid yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbyty Plant Alder Hey (y Fonesig Jo Williams) ac Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbyty’r Galon a’r Frest Lerpwl (Val Davies).

 

Mae’r trefniadau gweithio sydd ar waith gyda’r ddwy ganolfan arbenigol yn rhoi mynediad i’r lefelau uchaf o ofal pan fo’i angen i gleifion o bob rhan o ogledd Cymru. Mae hyn hefyd yn cynnwys ein timau clinigol yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn Lerpwl er mwyn darparu rhai o’r gwasanaethau hyn o’n hysbytai yng ngogledd Cymru, yn ogystal ag yn Lerpwl.

 

Dywedodd Dyfed “Roeddwn yn falch iawn o ymweld ag Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbyty Plant Alder Hey ac Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbyty’r Galon a’r Frest Lerpwl. Roedd yn dda cael cysylltiad â’r Cadeiryddion unigol ac i drafod y gwasanaethau pwysig a gynigir i gleifion yng ngogledd Cymru. Dysgais hefyd am y ffyrdd y mae’r ddwy ymddiriedolaeth yn datblygu a’u hymagwedd tuag at wella, y gall llawer o hynny helpu i lywio ein taith wella ni hefyd.”