Neidio i'r prif gynnwy

Cofnodion nyrsio i fynd yn ddigidol fel rhan o system genedlaethol newydd i wella profiad a gofal cleifion

14/02/2022

Mae nyrsys o bob rhan o ysbytai llym a chymunedol Gogledd Cymru yn ymuno â system ddigidol newydd Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) a fydd yn helpu i ddilyn claf ar ei daith gofal iechyd.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn ymuno â byrddau iechyd eraill i weithredu system WNCR, a ddatblygwyd gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru, sydd wedi trawsnewid dogfennaeth nyrsio trwy safoni ffurflenni, a’u troi’n ddigidol.

Bydd nyrsys yn gweld fformatau newydd ar gael ar bapur ac yn ddigidol ar gyfer dogfennau gan gynnwys asesiadau risg ac asesiadau cleifion mewnol oedolion. Mae'r fersiynau digidol o'r ffurflenni yn golygu y bydd nyrsys yn gallu cwblhau asesiadau, gan gynnwys ar ochr gwely'r claf, ar ddyfais electronig (tablet).

Dywedodd Jane Brady, Uwch Arbenigwr Arweiniol Gwybodeg Nyrsio, BIPBC: “Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i nyrsys yn BIPBC, yn y symudiad i ddefnyddio system ddigidol i fewnbynnu gofal nyrsio ar gyfer y claf. Mae hwn yn newid mawr i’n bwrdd iechyd ac mae ein nyrsys yn gyffrous iawn i ddechrau gwneud eu gwaith papur yn ddigidol. Byddwn hefyd yn edrych ar sgiliau digidol ein nyrsys a byddwn yn helpu i adeiladu eu hyder gyda’r dechnoleg.

“Rwy’n hynod falch o fod yn rhan o’r system drawsnewidiol newydd hon ar gyfer nyrsys ledled Cymru.”

Bydd y dogfennau digidol newydd yn helpu nyrsys i ddilyn claf drwy eu taith gofal iechyd, gan ddefnyddio’r un iaith nyrsio safonol i leihau dyblygu a gwella profiad a gofal cleifion, drwy roi mwy o amser i nyrsys dreulio gyda chleifion a chael mynediad cyflymach at gofnodion iechyd eu claf.

Bydd y cofnodion digidol yn dechrau cael eu cyflwyno ar draws BIPBC y gwanwyn hwn, gan ddechrau yn gyntaf yn Sir y Fflint a Wrecsam.

Enillodd y tîm y tu ôl i’r WNCR wobr y Prosiect TG Gofal Iechyd Gorau yng Ngwobrau Diwydiant TG y DU Cymdeithas Gyfrifiadura Prydain ym mis Tachwedd 2021, a gafodd ganmoliaeth gan Weinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan.

Dywedodd hi: “Mae Cofnod Gofal Nyrsio Cymru yn digideiddio cofnodion nyrsio fel bod gan nyrsys fwy o amser i’w dreulio gyda chleifion a chael mynediad at fwy o wybodaeth. Mae hwn yn llwyddiant mawr i’r tîm sydd wedi gweithio’n galed i gyflwyno hyn ar draws GIG Cymru."