Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogaeth o £64 miliwn ar gyfer cynllun ledled y du i gryfhau cyflenwi ymchwil clinigol

23/06/21

Gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
  • Gwell canlyniadau iechyd trwy ymchwil mwy effeithiol ac effeithlon gan adeiladu ar wersi a ddysgwyd yn ystod y pandemig
  • Hyrwyddo amgylchedd ymchwil clinigol sy'n canolbwyntio ar y claf, yn arloesol ac wedi'i alluogi gan ddata
  • Ymgorffori ymchwil yn y GIG i gynyddu capasiti a gallu'r DU i ddarparu ymchwil clinigol blaengar

Bydd cleifion ledled y DU yn elwa o system ymchwil clinigol fywiog, gyda chefnogaeth o dros £64 miliwn mewn cyllid, a fydd yn helpu i ddod â thriniaethau a thechnolegau achub bywydau ledled y wlad. 

Yn dilyn y weledigaeth eofn 'Achub a gwella bywydau: dyfodol cyflenwi ymchwil clinigol yn y DU a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, nododd llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig heddiw gam cyntaf y gweithgaredd ar gyfer gwell canlyniadau iechyd a chaniatáu i fwy o gleifion fod yn rhan o ymchwil sydd yn berthansol iddynt, ac elwa ohono.

Bydd y gweithgaredd ar gyfer y misoedd nesaf yn cynnwys:

  • datblygu a threialu triniaethau a brechlynnau COVID-19 newydd
  • gwneud cyflenwi ymchwil clinigol yn y DU yn haws trwy adolygiadau moeseg cyflymach a phrosesau cymeradwyo cyflymach
  • hybu gallu ymchwil clinigol gyda mwy o dreialon rhithwir ac o bell
  • cynyddu amrywiaeth a chyfranogiad mewn ymchwil mewn cymunedau nad yw ymchwil yn eu gwasanaethu'n draddodiadol
  • digideiddio'r broses ymchwil clinigol i ganiatáu i ymchwilwyr ddod o hyd i gleifion, cynnig lleoedd iddynt mewn treialon, a monitro canlyniadau iechyd.

Dywedodd Matt Hancock, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae ymchwil clinigol wedi bod yn hanfodol yn ein brwydr yn erbyn COVID-19 ac wedi arbed miloedd o fywydau. Gan weithio gyda llywodraethau’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, mae ein gweledigaeth uchelgeisiol ledled y DU ar gyfer dyfodol cyflenwi ymchwil clinigol yn hanfodol os ydym am adeiladu ar y momentwm cyffrous hwn ac achub bywydau. Rydym yn gwireddu’r weledigaeth hon trwy barhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid ledled y DU, y GIG, rheoleiddwyr, diwydiant ac sector ymchwil meddygol. Byddwn yn creu system ymchwil clinigol mwy arloesol, gwydn sy'n canolbwyntio ar y claf.”

Ni fu'r cysylltiad rhwng ymchwil a budd i gleifion trwy driniaethau a gofal gwell erioed yn gliriach. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae ymdrechion ymchwil y DU sy’n brwydro yn erbyn COVID-19 wedi atgyfnerthu’r rôl hanfodol y mae ymchwil clinigol yn ei chwarae yn iechyd y boblogaeth. Bydd parhau i ddatblygu triniaethau a brechlynnau COVID-19 newydd yn sicrhau dull manteisiol wrth fynd i'r afael â'r feirws.

Bydd y gweithgaredd yn ystod y misoedd nesaf yn cynnwys:   

  • Gyrru adferiad portffolio ymchwil clinigol y DU, wrth barhau i ddatblygu a threialu triniaethau a brechlynnau COVID-19 newydd - gan weithio ledled y DU mewn partneriaeth â'r cyllidwyr ymchwil, y gweinyddiaethau datganoledig a rhanddeiliaid eraill i nodi'r astudiaethau mwyaf brys sydd angen cefnogaeth i wella.
  • Gwneud cyflenwi ymchwil clinigol y DU yn haws, yn fwy effeithlon ac yn fwy effeithiol trwy fentrau allweddol gan gynnwys adolygiad moeseg ymchwil cyflym sy'n caniatáu cymeradwyaeth gyflymach ar gyfer ymchwil a rhoi treialon ar waith yn gyflymach.
  • Hybu capasiti ymchwil clinigol, gan gynnwys trwy gynyddu nifer y treialon rhithwir ac o bell, galluogi mwy o ymchwil i ddigwydd y tu allan i leoliadau traddodiadol y GIG, ac ehangu Canolfannau Recriwtio Cleifion i ddarparu capasiti ychwanegol ar gyfer ymchwil masnachol cam hwyr.
  • Cynyddu amrywiaeth a chyfranogiad mewn ymchwil, trwy weithio gyda phartneriaid fel y Ganolfan Iechyd BME yng Nghaerlŷr i ddatblygu systemau a phrosesau sy'n galluogi cyfeirio ymchwil iechyd  a'i gefnogi o fewn ardaloedd a chymunedau sy'n draddodiadol yn cael eu tan-wasanaethu gan ymchwil, i gynyddu amrywiaeth o ymchwilio i gyfranogwyr ac i helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
  • Digideiddio'r broses ymchwil clinigol i'w gwneud yn gyflymach ac yn rhatach trwy ddechrau creu gwasanaeth Canfod, Recriwtio ac Olrhain cyfannol, wedi'i alluogi gan ddata, gan ganiatáu i ymchwilwyr ddod o hyd i gleifion yn ddigidol, cynnig lleoedd iddynt mewn treialon a monitro canlyniadau iechyd fel rhan o'r astudiaeth, gan wneud sefydlu a chyflenwi ymchwil clinigol yn gyflymach, yn haws ac yn fwy cynhwysol, i gyflymu datblygiad arloesiadau iechyd sy'n achub bywydau. 

Dywedodd yr Arglwydd Bethell, y Gweinidog Arloesi:

“Bydd gweithio gyda chydweithwyr yn y gweinyddiaethau datganoledig ac ar draws y sector ar y cynllun uchelgeisiol hwn yn sicrhau ein bod yn datblygu amgylchedd ymchwil clinigol sydd o fudd i bawb ym mhob rhan o'r DU.

“Dyma'r cam cyntaf mewn gweledigaeth uchelgeisiol fawr. Byddwn yn parhau i adeiladu ar y sylfeini cryf hyn i ddarparu ecosystem ymchwil sy'n gosod y DU fel arweinydd byd-eang mewn ymchwil clinigol blaengar. Gydag ymchwil wedi'i ymgorffori ledled y GIG, bydd y DU yn arweinydd byd-eang mewn treialon ar gyfer triniaethau a thechnolegau newydd.”

Mae cyhoeddi'r cynllun yn dilyn o gytundeb hanesyddol Gweinidogion Iechyd y G7 i greu siarter treialon clinigol Therapiwteg a Brechlynnau newydd yn nodi’r egwyddorion a rennir i gyflymu'r modd y mae treialon clinigol yn cynhyrchu tystiolaeth gadarn a sut y gellir gweithredu eu canfyddiadau yn y pandemig hwn ac mewn pandemigau yn y dyfodol.

Dywedodd Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan: 

“Mae gan Gymru gyfleoedd gwych ar gyfer ymchwil clinigol ac rydym wedi ymrwymo'n llwyr i chwarae ein rhan i wneud system ymchwil clinigol y DU yn un o'r goreuon, os nad y gorau, yn y byd. Mae'r cynllun a lansiwyd heddiw yn garreg gamu allweddol i gyflawni ein huchelgeisiau ar y cyd. Rwy’n falch iawn o weld yr aliniad cryf i’n strategaeth ‘Cymru Iachach’, lle mae unigolion wrth wraidd trawsnewid a moderneiddio gwasanaethau iechyd a gofal, a lle mae ymchwil wedi’i ymgorffori mewn gofal o ansawdd uchel.

“Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn parhau i weithio ar y cyd gyda’r holl bartneriaid, ledled y DU ac ar draws Cymru, wrth i ni geisio atebion arloesol a gweithredu’r cynllun uchelgeisiol hwn er budd y cyhoedd, cleifion a’r gweithlu.”