Neidio i'r prif gynnwy

Carol Shillabeer yn parhau yn ei rôl fel Prif Weithredwr Dros Dro

19/07/23

Mae Dyfed Edwards, Cadeirydd Dros Dro, wedi cadarnhau y bydd Carol Shillabeer yn parhau yn ei rôl fel Prif Weithredwr Dros Dro ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr tan Mawrth 2024.

Dywedodd: “Mae’n bleser gen i glywed bod Carol wedi cytuno i barhau yn y rôl dros dro tra byddwn ni’n mynd trwy’r broses o recriwtio Prif Weithredwr parhaol.”

Bydd Hayley Thomas, ei Dirprwy Brif Weithredwr yn parhau i fod yn gyfrifol am ei rôl ym Mhowys.