Neidio i'r prif gynnwy

Actorion Ifanc Theatr Clwyd yn ymweld â'r ysbyty ar gyfer perfformiad awyr agored arbennig

13/07/2022

Roedd cleifion yn Ysbyty Cymuned yr Wyddgrug wrth eu bodd ag ymweliad gan berfformwyr ifanc Theatr Clwyd.

Mewn perfformiad awyr agored arbennig, rhannodd y perfformwyr sydd rhwng 10 a 14 oed, amrywiaeth o ddramâu byrion a ysgrifenwyd ganddynt wedi eu hysbrydoli gan lythyrau gan y cleifion, darllen cerddi, dweud jôcs drwy basio labeli bagiau drwy'r ffenestri, tynnu lluniau, chwarae gemau ar y ffenestri, a rhannu bisgedi yr oeddent wedi’u gwneud.

Roedd y grŵp yn cynnwys 27 gwirfoddolwr o un o weithdai drama a chreadigrwydd wythnosol Theatr Clwyd. Dros gyfnod o bedair wythnos, fe wnaethon nhw ddefnyddio amrywiol ffurfiau celfyddyd i ddatblygu perthynas gyda chleifion mwy hirdymor Ysbyty Cymuned yr Wyddgrug. Gan ffocysu ar y thema 'atgofion' yn y lle cyntaf, fe wnaeth y bobl ifanc ysgrifennu llythyrau i'r cleifion yn eu holi am atgofion eu plentyndod ac am yr hyn a oedd yn wahanol pan oedden nhw yn tyfu i fyny (bwyd, iaith, hobïau, ysgol).

Gan ddefnyddio eu hymatebion fel ysbrydoliaeth, aeth y bobl ifanc ati i greu cyfres o weithgareddau a fyddai'n diddanu, difyrru, ac annog rhyngweithio rhwng y cleifion a'r gwirfoddolwyr.

Dywedodd Diane Sweeney, Cydlynydd Gweithgareddau a Hyrwyddwr Profiad Cleifion yn Ysbyty Cymuned yr Wyddgrug "Roedd o'n brofiad bendigedig croesawu'r perfformwyr ifanc hyn i'r ysbyty, ac i'n cleifion brofi'r fath lawenydd ar garreg ein drws. Fe wnaeth y cleifion a oedd yn gallu dod allan wir fwynhau eu hunain, ac fe wnaeth y gweithgareddau oedd i'w gwneud yn y cyfnod yn arwain at y perfformiad wir wneud ein cleifion yn gyffrous i gwrdd â'r bobl ifanc wyneb yn wyneb.

“Roedd hi'n wych bod y rheiny a arhosodd y tu mewn yn dal wedi gallu profi'r gweithgaredd ffenest ac fe wnawn ni barhau i ddatblygu ffyrdd newydd o sicrhau ein bod yn cadw cysylltiad.”

Oherwydd y cyfyngiadau nid oes modd i grwpiau mawr ymweld â'r wardiau, felly fe wnaeth rhai cleifion wylio a chymryd rhan drwy'r ffenestri. O alw'r prosiect yn "Ffenestri", bu'n rhaid i'r bobl ifanc fod hyd yn oed yn fwy creadigol mewn dyfeisio eu gweithgareddau a meddwl am ffyrdd gwahanol o gyfathrebu drwy'r ffenestri.

Yn ystod y diwrnod heulog, llwyddodd rhai cleifion i ddod allan i wylio, ac fe wnaethon nhw baru gyda rhai o'r actorion i ysgrifennu eu storïau eu hunain a chafodd y rhain eu darllen i’r grŵp gan y plant.

Dywedodd Gwennan Mair, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol: "Cawsom gymaint o hwyl yn cwrdd â chleifion Ysbyty Cymuned yr Wyddgrug a rhannu gweithgareddau gyda'n gilydd. Ar gyfer y cyfarfod nesaf, mae ein pobl ifanc wedi eu gwahodd i rannu pizza a sioe dalent ar Zoom. Rydym yn edrych ymlaen at barhau â'n cyfeillgarwch newydd â'n gilydd.”