Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yw'r darparwr iechyd integredig mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau acíwt, cymunedol, iechyd meddwl a gofal sylfaenol ar gyfer poblogaeth o fwy na 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Gyda chyllideb o £2.1bn, gweithlu o dros 21,000 o gydweithwyr ymroddedig a gwasanaethau yn ymestyn ar draws tri ysbyty acíwt, nifer o safleoedd cymunedol a llawer o dimau cymunedol, rydym yn cyflawni rôl hollbwysig o ran gwella iechyd a lles ar draws rhanbarth sy'n amrywiol ar lefel ddaearyddol a diwylliannol.
Rydym yn gwneud cryn gynnydd o ran ein taith wella, gan ddefnyddio statws wedi'i uwchgyfeirio Mesurau Arbennig fel cyfle i gyflawni pethau gwych ar gyfer ein pobl. Mae ein harweinwyr a'n partneriaid wedi cofleidio gwaith mewn partneriaeth i roi newid ar waith, ac rydym bellach yn canolbwyntio ar sefydlogi ein sefydliad ymhellach, gan ail-ennyn ymddiriedaeth, a datblygu diwylliant sydd wedi'i wreiddio mewn dysgu, didwylledd, a gwella parhaus. Mae'r datblygiadau yr ydym wedi'u gwneud wedi cael eu cydnabod, ond rydym yn gwybod bod mwy i'w wneud. Rydym yn ymrwymedig, yn uchelgeisiol ac yn benderfynol o osod sylfeini'r dyfodol er mwyn galluogi'r Bwrdd Iechyd i gynnig gofal o ansawdd uchel ac sy'n dosturiol yn gyson.
Oherwydd ymddeoliad, rydym bellach yn chwilio am arweinydd nyrsio a bydwreigiaeth sydd â phrofiad ar lefel bwrdd neu brofiad cyfatebol, i ymuno â ni fel ein Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth newydd. Fel aelod allweddol o'n Bwrdd, byddwch yn dod â hygredd proffesiynol, arweinyddiaeth weladwy wedi'i harwain gan werthoedd, a ffocws cyson ar ddiogelwch ac ansawdd cleifion. Byddwch yn cyflawni rôl hollbwysig o ran atgyfnerthu llywodraethu clinigol, hybu gofal tosturiol, gwella profiad cleifion, gwella cynhyrchiant a chreu gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth sy'n hyderus ac sydd wedi'i rymuso. Gan weithio ar y cyd â chydweithwyr ar draws ein sefydliad amrywiol a'n system iechyd a gofal ehangach, byddwch yn dod â'r weledigaeth er mwyn rhoi trawsnewid eang ar waith.
Mae hwn yn gyfle diffiniol i’ch gyrfa i helpu i lywio dyfodol ein system iechyd a gofal, meithrin hyder a balchder yn ein gwasanaethau, ac i gyflawni rôl ystyrlon o ran gwella iechyd y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau ar draws cymunedau Gogledd Cymru.
Os ydych yn rhannu ein gweledigaeth a'n gwerthoedd ac yr hoffech ystyried y cyfle hwn ymhellach, byddem yn hynod falch o glywed gennych chi.
Anogir ymgeiswyr i weld yr hysbyseb a'r ddogfennaeth ategol trwy wefan GatenbySanderson: Job - GatenbySanderson.
Cysylltwch â'n partneriaid recriwtio yn GatenbySanderson i gael sgwrs anffurfiol am eich diddordeb: Joanna Riley, Niamh Blair neu Emma Pickup trwy Joanna.riley@gatenbysanderson.com.
Dyddiad cau: 9am Dydd Llun 27 Ebrill 2026
Sesiwn/Sesiynau Rhanddeiliaid: Dydd Gwener 15 Mai 2026
Panel Terfynol: Dydd Llun 18 Mai 2026