Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Rhuthun

Cyfeiriad: Stryd Llanrhydd, Rhuthun, LL15 1PS
Rhif ffôn: 03000 850 025

Gwasanaethau Ysbyty

  • Gwelyau cleifion mewnol 
  • Gwasanaethau Awdioleg - Mae angen apwyntiad ar gyfer y clinig Awdioleg hwn. Cysylltwch â’ch Adran Awdioleg leol i drefnu apwyntiad. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein Gwasanaethau Awdioleg.
  • Clinigau cymunedol a chleifion allanol gyda Meddygon Ymgynghorol 
  • Ffisiotherapi cleifion allanol a mewnol
  • Therapi Galwedigaethol
  • Podiatreg
  • Nyrsys Ardal
  • Adran Therapïau
  • Gwasanaeth fflebotomi - rhaid cael apwyntiad
  • Bydwragedd

Cyfleusterau

Bydd siop fach yr ysbyty ar agor pan fydd y clinigau ar agor, yn ystod y prynhawn ac ar benwythnosau 

Ymweliadau ag Ysbytai

Mae gwybodaeth am ymweld â'n safleoedd ysbyty ar gael yma. 

Mae pob un o'n safleoedd ysbyty yng Ngogledd Cymru yn ddi-fwg, gallai unrhyw un sy'n cael ei ganfod yn torri'r gyfraith trwy ysmygu ar diroedd ysbytai wynebu dirwy o £100, y gellir ei gorfodi'n gyfreithiol.

Sut i gyrraedd

Ar y ffyrdd: Rhowch y cyfeiriad canlynol yn eich ap map i gael cyfarwyddiadau i safle'r ysbyty: Ysbyty Rhuthun, Stryd Llanrhydd, Rhuthun, LL15 1PS

Ar y trên: Dim gwasanaeth trên

Ar y bws:  Am wybodaeth, ewch i Traveline Cymru