Amseroedd ymweld
Mae oriau agor ysbyty rhwng 10am a 8pm.
Mae ein trefniadau ymweld mor hyblyg â phosibl, ond dylai fod cyfanswm o ddau ymwelydd wrth erchwyn y gwely ar unrhyw adeg benodol oni bai bod amgylchiadau eithriadol, bydd Rheolwr y Ward yn penderfynu ar hyn yn ôl ei ddisgresiwn. Holwch y ward yn uniongyrchol cyn eich ymweliad cyntaf.
Dylech fod yn ymwybodol y gallai cyfyngiadau ymweld gael eu rhoi ar waith ar fyr rybudd mewn ymateb i heintiau neu achosion o salwch, er mwyn amddiffyn ein cleifion, ein hymwelwyr, a'n staff.
Unedau pediatrig
- Caiff rhieni a phrif ofalwyr fynediad anghyfyngedig yn ystod y dydd i aros gyda'u plentyn ar yr uned/ward. (un rhiant yn unig yn y nos)
- Gall brodyr a chwiorydd ymweld ond dylai fod 2 unigolyn o amgylch y crud/wrth erchwyn y gwely yn unig a dylai un o'r rhain fod yn rhiant
Unedau newyddenedigol
- Os na all y rhiant fynychu'r Uned Newyddenedigol, gall enwebu unigolyn o'i ddewis
- Dim ond dau unigolyn o amgylch y crud a dylai un o'r rhain fod yn rhiant
- Dylai brodyr a chwiorydd ymweld ochr yn ochr â'r rhieni er mwyn hybu safonau’r Fenter Cyfeillgar i Fabanod a Gofal Integredig i Deuluoedd
- Amseroedd ymweld ddwywaith y dydd ar gyfer y teulu estynedig, holwch staff yr uned am ragor o wybodaeth
- Er mwyn atal heintiau pe bai brigiad o achosion yn codi, dylai rhieni yn unig fod yn bresennol ar yr uned
Unedau Mamolaeth
- Rhoi genedigaeth: Gall hyd at ddau bartner geni fod yn bresennol yn ystod y broses esgor
- Ymweliadau agored: Gall un partner geni neu unigolyn enwebedig arall ymweld â'r wardiau cynenedigol ac ôl-enedigol, os nad yw'r partner geni yn gallu mynychu, ar unrhyw bryd rhwng 9am a 8pm bob dydd, nid oes angen trefnu apwyntiad. Mae croeso hefyd i frodyr a chwiorydd y babi fynychu hefyd gydag un partner geni neu unigolyn enwebedig arall yn ystod y cyfnod hwn er mwyn cwrdd ag aelod (au) newydd eu teulu.
- Amser gorffwys: Rhwng 12pm a 2pm, ein nod yw rhoi amser i famau a babanod orffwys ac rydym yn gofyn i bartneriaid geni unigol a phobl enwebedig sy'n mynychu barchu'r amser hwn.
- Ymweliadau cyffredinol: Mae ymweliadau cyffredinol ar gael o 2pm hyd at 4pm ac o 6pm hyd at 8pm (nid oes angen apwyntiad), ar gyfer hyd at ddau ymwelydd ar unrhyw adeg benodol wrth erchwyn y gwely oni bai bod amgylchiadau arbennig. Mae'r terfyn ar nifer y bobl sy'n cael bod wrth erchwyn y gwely yn parhau er mwyn amddiffyn ein cleifion, babanod, staff ac ymwelwyr eraill.
- Esgor sefydledig, mynd i'r theatr a thoriadau Cesaraidd brys: Gall hyd at ddau bartner geni fynychu gyda'u partner yn ystod y broses esgor. Dim ond un partner geni sy'n cael mynd i'r theatr ar gyfer toriad Cesaraidd dewisol neu doriad Cesaraidd brys. Ni chaniateir plant o dan 16 oed yn ardal y cleifion mewnol oni bai eu bod yn frawd neu'n chwaer i'r babi newydd.
- Apwyntiadau: Gall un partner geni neu unigolyn enwebedig arall fynychu'r apwyntiadau canlynol: Clinigau cynenedigol mewn lleoliad ysbyty, Clinigau Cynenedigol Meddygon Ymgynghorol mewn ysbytai a lleoliadau gofal iechyd cymunedol eraill, yr holl apwyntiadau am sganiau Obstetreg (sganiau uwch sain) sydd hefyd mewn ysbytai a lleoliadau gofal iechyd cymunedol eraill a'r Uned Asesu Mamolaeth i Gleifion Allanol a'r Uned Asesu Esgoriad Cynnar
- Genedigaethau yn y cartref: Rydym yn rhoi cymorth i'r rhai sy'n awyddus i roi genedigaeth yn y cartref, trafodwch hyn gyda'ch bydwraig gymunedol.