Cyfeiriad: Ffordd Llanfair, Abergele, Conwy, LL22 8DP
Rhif Ffôn: 01745 583 910
Mae Cyfeillion Ysbyty Abergele yn rhedeg ‘Lolfa Manceinion' sy'n cynnig lluniaeth ysgafn. Mae ar agor 10am – 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae gwybodaeth am ymweld â'n safleoedd ysbyty ar gael yma.
Mae pob un o'n safleoedd ysbyty yng Ngogledd Cymru yn ddi-fwg, gallai unrhyw un sy'n cael ei ganfod yn torri'r gyfraith trwy ysmygu ar diroedd ysbytai wynebu dirwy o £100, y gellir ei gorfodi'n gyfreithiol.
Ar y ffordd: Gadewch yr A55 yng Ngyffordd 24 a dilyn yr arwyddion am Ruddlan ac Abergele. Ymunwch â'r A548 drwy gymryd y drofa gyntaf oddi ar y gylchfan ac ymlaen am ganol tref Abergele. Ewch ymlaen drwy’r set gyntaf o oleuadau traffig ac yn yr ail set o oleuadau, trowch i’r chwith a pharhau ar yr A548 (arwydd Llanfait TH, Llanrwst ac Ysbyty Abergele). Mae Ysbyty Abergele oddeutu milltir i ffwrdd ac fe welwch arwydd i droi i'r chwith. Ewch i fyny'r ffordd ac mae meysydd parcio bob pen i'r safle. Mae'r brif fynedfa ger y maes parcio cyntaf.
Ar y trên: Mae'r orsaf drenau agosaf yn Abergele/ Pensarn; I gael gwybodaeth am gludiant trenau, ewch i Traveline Cymru
Ar y bws: Mae gwasanaeth bws rheolaidd yn syth i mewn i dir yr ysbyty. I gael mwy o wybodaeth, ewch i Traveline Cymru