Neidio i'r prif gynnwy

Ymataliaeth Bediatrig

Rydym yn dîm o feddygon a nyrsys sydd wedi’u hyfforddi mewn asesu a rheoli plant sydd yn/â:

  • Gwlychu yn ystod y dydd (o 3 blwydd oed ymlaen)
  • Gwlychu yn ystod y nos (o 5 mlwydd oed ymlaen)
  • Rhwymedd a Baeddu (o 3 blwydd oed ymlaen)

Rydym wedi ein lleoli yn Adran Cleifion Allanol y Plant, Uned Heulwen, Ysbyty Gwynedd, LL57 2PW, 01248 385 089

Bydd eich apwyntiad cyntaf mewn canolfan iechyd neu glinig lleol:

  • Bydd y nyrs yn asesu anghenion ymataliaeth eich plentyn.
  • Fe all y nyrs ofyn am wybodaeth ychwanegol o ddyddiaduron symptomau neu archwiliadau eraill. Bydd y nyrs yn egluro’r hyn sydd ei angen yn ystod yr apwyntiad ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
  • Bydd y nyrs yn rhoi cyngor sydd yn addas i’ch plentyn. Bydd hyn yn cynnwys cyngor ynglŷn â diodydd, diet neu gwsg (gan gynnwys therapi larwm ar gyfer gwlychu’r gwely), neu gyngor ar feddyginiaeth.

Bydd y rhan fwyaf o apwyntiadau dilynol yn cael eu cynnal trwy glinig dros y ffôn. Bydd y nyrs yn dweud wrthych pryd i ddisgwyl yr alwad. Caiff rhai apwyntiadau dilynol eu cynnal mewn clinig lleol. Yna, gallwn drafod â chi a’ch plentyn.

Byddwch ond yn cael apwyntiad gyda meddyg os:

  • Rydych yn ei chael hi’n rhy anodd gweithredu’r cyngor a roddwyd
  • Nid yw eich plentyn yn gwella er eich bod yn dilyn y cyngor
  • Mae angen gofal trydyddol arnoch gan Ysbyty Alder Hay

Yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gennych chi:

  • Byddwch yn gwrtais gyda’n staff a’u trin hwy â pharch
  • Cwblhewch y dyddiaduron symptomau a sicrhewch eu bod nhw wrth law ar gyfer apwyntiadau clinig dros y ffôn yn ogystal ag apwyntiadau mewn clinigau lleol– bydd hyn yn ein helpu i roi’r cyngor gorau i chi.
  • Gofynnwn i chi ein helpu drwy ddilyn y cyngor a roddwyd i chi. Dywedwch wrthym cyn gynted ag y gallwch os yw hyn yn rhy anodd i chi.
  • Mynychwch eich apwyntiadau ar amser.
  • Atebwch y ffôn pan fyddwn yn eich galw yn ystod apwyntiad clinig dros y ffôn. Fe fydd y galwadau hyn o ‘Rhif Preifat’
  • Canslwch apwyntiadau â 48-72 awr o rybudd – mae yn hyn yn ein galluogi i gynnig yr apwyntiad i blentyn arall.

Dywedwch wrthym os:

  • Rydych chi’n symud tŷ
  • Rydych yn newid eich rhif ffôn
  • Mae eich plentyn yn newid ysgol

Polisi Rhyddhau

Ein nod yw helpu gymaint o blant â phosibl i ddod yn hollol lân ac yn sych. Yn anffodus, na fydd hyn yn bosibl i bob plentyn.

  • Byddwn yn rhyddhau plant o’r gwasanaeth pan fydd y plentyn mor ymataliol ag y gall ef neu hi fod.
  • Bydd angen rhywfaint o feddyginiaeth bellach gan y meddyg teulu ar rai plant

Os byddwch yn canslo dau apwyntiad yn olynol, byddwn yn rhyddhau’r plentyn o’r gwasanaeth.

Os na fyddwch yn dod â’r plentyn i apwyntiad clinig heb ei ganslo o flaen llaw, byddwn yn rhyddhau’r plentyn o’r gwasanaeth.

Ar ôl rhyddhau o’r gwasanaeth, bydd angen cyfeiriad newydd arnoch os oes angen cymorth ychwanegol.

Helpwch ni i wneud pethau’n iawn:

Rydym yn hoffi cael adborth ar y gwasanaeth rydyn ni’n ei gynnig.

Gallwch wneud awgrymiadau neu sylwadau trwy:

  • Siarad ag aelod o staff, neu
  • Cwblhau unrhyw holiadur y caiff ei anfon allan.

Sut i gael mynediad

Ar hyn o bryd, mae’r gwasanaeth yn derbyn cyfeiriadau gan unrhyw weithwyr iechyd proffesiynol megis ymwelwyr iechyd, nyrsys ysgol, meddygon teulu, Pediatregwyr Ymgynghorol a Phediatregwyr Cymunedol sydd â phryderon am ymataliaeth plentyn. Sylwch fod llwybrau cyfeirio yn cael eu harchwilio a bydd hyn newid yn y dyfodol.


Dolenni defnyddiol

ERIC – The Children’s Bowel and Bladder Charity

Gwybodaeth i rieni a gofalwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol a gweithwyr proffesiynol y blynyddoedd cynnar ac addysg am blant a phobl ifanc â chyflwr y coluddyn neu’r bledren.

Rhif Ffôn: 0845 370 9009
Gwefan: www.eric.org.uk 


Bladder and Bowel UK

Cyngor a gwybodaeth am yr holl faterion bledren a choluddyn mewn plant a phobl ifanc gan gynnwys y rhai ag anghenion ychwanegol.

Gwefan: www.bbuk.org.uk/children-young-people/     
Rhif Ffôn: 0161 607 219

 

Canllawiau NICE

Rheoli gwlychu’r gwely mewn plant a phobl ifanc
Gwefan: https://www.nice.org.uk/guidance/cg111

Rhwymedd mewn plant a phobl ifanc: diagnosis a rheolaeth 
Gwefan: https://www.nice.org.uk/guidance/cg111