Neidio i'r prif gynnwy

Y Labordy Fasgwlaidd

Caiff profion an-ymledol ar y gwythiennau a'r rhydwelïau yn y pen, gwddw, breichiau, abdomen a'r coesau eu perfformio yn y labordy fasgwlaidd. Cynhelir y profion gan wyddonwyr fasgwlaidd neu sonograffwyr fasgwlaidd. Mae'r mwyafrif o driniaethau’n cynnwys sgan uwchsain, er mae rhai'n cynnwys mesur pwysau gwaed. Gall y profion helpu i roi diagnosis a thrin nifer o gyflyrau fasgwlaidd, megis Clefyd Fasgwlaidd Ymylol, ymlediadau, diffyg gwythiennol, strôc yn ogystal â chael eu defnyddio i gynllunio a monitro dialysis ffistwla.