Neidio i'r prif gynnwy

Deall Anawsterau Synhwyraidd

Gall deall anawsterau synhwyraidd eich plentyn fod yn broses hir a bydd angen arsylwi, dehongli ac ail-ddehongli wrth i'r plentyn dyfu a bydd elfennau newydd yn dylanwadu ei ddatblygiad.

Yn sylfaenol, mae gofyn ichi ddeall bod tair system synhwyraidd ychwanegol, yr un mor sylfaenol â'r pum system synhwyraidd a ddysgoch yn yr ysgol (golwg, arogl, clyw, cyffwrdd a blas):

  • Symudiad - symudiad synhwyraidd mewn perthynas â disgyrchiant. Cydbwysedd (a adnabyddir yn feddygol fel y system festibwlar)
  • Ymwybyddiaeth o'r corff - synnwyr o safle'r corff mewn gofod (a adnabyddir yn feddygol fel y system propriodderbynnol)
  • Interosepiad - synnwyr o'r hyn sy'n digwydd y tu mewn i'ch corff, teimladau o'ch organau e.e. llwglyd, syched a phoen

Yn gyntaf oll mae angen i blentyn allu cofrestru mewnbwn o synnwyr penodol, yna deall ystyr y mewnbwn hwnnw, yna rheoleiddio'r mewnbwn hwnnw i'r 'maint' cywir, cyn ei integreiddio'n effeithiol â'r saith synnwyr arall er mwyn gallu cynhyrchu ymateb priodol i'r sefyllfa/dasg dan sylw yn effeithlon.  

Mae angen i'r wyth system synhwyraidd hyn fod ar lefelau gwahanol  o wyliadwrus yn dibynnu ar y gweithgaredd dan sylw ac mae angen i'ch corff allu newid y lefelau hynny heb broblem os byddwch chi'n newid y gweithgaredd rydych chi'n ei wneud.

Mae ychydig yn debyg i ddesg gymysgu stiwdio sain pan fydd y technegydd (plentyn) yn ceisio dod o hyd i'r sŵn, trebl, bas, cydbwysedd a chyfuniad o offerynnau cywir sy'n briodol ar gyfer y gân (gweithgaredd), ond yn yr achos hwn mae'r gân yn newid fel mae'r plentyn yn symud trwy'r holl weithgareddau y mae'n ofynnol iddynt eu gwneud yn ddyddiol.

Er mwyn deall hoffterau synhwyraidd eich plentyn, byddai'n ddefnyddiol edrych ar eich un chi - mae'r llyfryn hwn yn eich helpu i wneud hynny.

Mae Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Plant yn cynnig gweithdai rhieni am ddim yn rheolaidd yn Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl i gynorthwyo gyda'r dealltwriaeth o brosesu synhwyraidd. Er mwyn cofrestru ar gyfer un o'r rhain, e-bostiwch paeds.ot@wales.nhs.uk.

Adnoddau ar-lein i helpu gydag anawsterau synhwyraidd:
Deall ymddygiad synhwyraidd
Fideo gweithdy synhwyrau