- Cynnwys meddygol yn seiliedig ar dystiolaeth sy'n cael ei ymchwilio, ei greu, a'i ddiweddaru'n barhaus gan dros 6,500 o feddygon blaenllaw
- Crynodebau ac argymhellion triniaeth ar gyfer dros 10,500 o bynciau mewn 25 arbenigedd
- “Diweddariadau Newid Ymarfer” gan dynnu sylw at ymchwil feirniadol sy'n newid sut rydych chi'n trin cleifion heddiw
- Crynodebau “Beth sy'n Newydd” a chanfyddiadau newydd pwysig yn ôl arbenigedd
- Dros 440,000 o gyfeiriadau, gyda dolenni i PubMed a'r erthyglau cyflawn lle mae ein tanysgrifiadau yn caniatáu
- Cyfrifianellau meddygol
- Gwybodaeth i gleifion sy'n ymdrin â dros 1,500 o bynciau
Beth mae'r ap yn ei gynnwys?
Mae ein tanysgrifiad hefyd yn cynnwys mynediad i'r ap UpToDate Anywhere.
- Mae UpToDate Anywhere yn ateb cwestiynau clinigol pryd bynnag a lle bynnag y byddwch eu hangen
- Ap Symudol UpToDate am ddim ar gyfer eich dyfais iOS neu Android
- Mynediad hawdd i UpToDate o bell (y tu allan i rwydwaith y Byrddau Iechyd)
- Credydau addysg parhaus am ddim (CME / CE / DPP pan fyddwch yn ymchwilio i gwestiwn clinigol gan ddefnyddio UpToDate ar safle neu o bell - gan gynnwys ar eich dyfais symudol)
- Diweddariad clinigol bob yn ail wythnos gyda hysbysiadau detholedig am 'Beth sy'n Newydd a 'Diweddariadau Newid Ymarfer'
Sut mae cyrchu UpToDate?
I gyrchu'r adnodd amhrisiadwy hwn ewch i'n tudalen UpToDate ar wefan mewnrwyd y Llyfrgell. I gofrestru ar gyfer mynediad at UpToDate, bydd gofyn i chi ddilyn y ddolen ar y fewnrwyd i greu cyfrif personol. Bydd y cyfrif hwn hefyd yn eich galluogi i gyrchu'r ap UpToDate yn unrhyw le. Os oes angen mynediad arnoch ac nad ydych yn gallu cysylltu â'r mewnrwyd gallwch gyrchu fersiwn ‘desktop’ UpToDate trwy OpenAthens.
|