Neidio i'r prif gynnwy

Cwsg

Mae angen cwsg ar bob un ohonom ni - am ddigon o amser ac o ansawdd digonol. Mae cwsg yn adfer ac yn adnewyddu.

Mae noson dda o gwsg:

  • Yn rhyddhau'r hormon tyfiant i atgyweirio meinweoedd y corff
  • Yn ychwanegu at niwtrodrosglyddion - y cemegau y mae'r nerfau yn eu defnyddio i gyfathrebu â'i gilydd
  • Yn gwaredu cynhyrchion gwastraff allan o'r bath hylif sy'n amgylchynnu ac yn maethu’r ymennydd ac asgwrn y cefn
  • Yn cryfhau ac yn sefydlu atgofion
  • Yn ein helpu ni i fod yn fwy gwydn yn erbyn straen
  • Yn gostwng pryder ac yn gwella hwyliau
  • Yn lleihau llid
  • Dros amser gall helpu i leihau poen (dengys gwyddoniaeth fod cwsg yn effeithio ar boen yn fwy nag y mae poen yn effeithio ar gwsg)

Pan derfir ar batrymau cwsg, rydym fel arfer yn GWNEUD pethau i geisio RHEOLI cwsg a GWNEUD i'n hunain fynd i gysgu.

Ond nid yw pobl sy'n cysgu'n dda yn GWNEUD dim byd - maen nhw yn ymddiried yn y corff a'r broses ac yn gadael i gwsg ddigwydd.

Rydym i gyd yn gwybod po fwyaf y CEISIWN fynd i gysgu, y mwyaf aflonydd y byddwn ni.

Dysgu i ymddiried yn ein corff eto, derbyn y methu cysgu yn llawn am y tro, a pheidio trio mor galed yw'r ffordd orau i symud ymlaen tuag at adfer cwsg gwell.

Y pethau sy'n creu’r amodau gorau i'r corff a'r ymennydd fynd i gysgu:

  • Peidiwch ag yfed diodydd caffein yn hwyrach na'r prynhawn
  • Cadwch draw o’ch ffonau a sgriniau eraill am ychydig oriau cyn gwely
  • Symudwch unrhyw beth nad yw'n ymwneud â chwsg allan o'r ystafell wely - dim teledu, cyfrifiaduron ac ati.
  • Gwnewch yn siŵr fod yr ystafell yn ddigon tywyll ac ychydig o raddau yn oerach na gweddill y tŷ
  • Peidiwch â chael cyntun yn y dydd am fwy na 20-30 munud (gosodwch larwm)
  • Codwch ar yr un amser bob dydd waeth pa fath o noson rydych wedi ei chael
  • Gwnewch beth ymarfer corff, os gallwch, yn gynharach yn y dydd
  • Sicrhewch eich bod yn cael digonedd o olau dydd  naturiol ben bore- mae’n helpu i reoleiddio cloc eich corff
  • Sefydlwch drefn ymlacio fin nos - diffoddwch y golau, gwisgwch eich pyjamas!