Neidio i'r prif gynnwy

Deall Poen

Deall Poen

Mae poen yn gymhleth, ond gall ei deall yn well ein helpu i ymdopi â hi'n well.

Os byddwch yn tynnu eich bysedd yn ôl, caiff y boen y byddwch yn ei phrofi ei sbarduno er mwyn eich rhybuddio ynghylch anaf ac mae'n achosi i chi gymryd camau i amddiffyn eich hun. DAW POEN I'N HAMDDIFFYN NI, YN BENNAF OLL. CAIFF EI SBARDUNO GAN FYGYTHIAD ANAF.

Os cawn ein hanafu, mae'r ymateb amddiffynnol hwn yn mynd yn fwy sensitif er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi sylw i'r rhan o'r corff sydd wedi'i hanafu ac i'w gwarchod fel y gall fod cyfle i iacháu’n ddirwystr, gan fynd yn llai sensitif yn raddol a chan ganiatáu i ni anghofio amdano yn y pen draw a symud yn y ffordd arferol wrth i'r atgyweiriad fynd yn gryfach. Weithiau, bydd y boen yn parhau hyd yn oed ar ôl i anaf iacháu, neu efallai y bydd yn dechrau ac yn parhau pan nad oes unrhyw anaf o gwbl. Hynny yw, mae'r system amddiffynnol yn aros yn sensitif ac yn fwy amddiffynnol, neu mae'n mynd yn sensitif am resymau ar wahân i anaf.

Gallai rhai o'r rhesymau eraill pam y gallai poen ddechrau heb unrhyw reswm amlwg, neu pam y gallai bara’n hirach gynnwys pethau fel:

  • Cysgu'n wael
  • Straen hirfaith a/neu fawr
  • Pryder neu ofn, yn enwedig ynghylch yr hyn y gallai'r boen ei chynrychioli
  • Poenau eraill yn parhau ar yr adeg, neu lawer o broblemau gyda phoen yn y gorffennol
  • Cyflyrau iechyd eraill, yn enwedig os ydynt yn cynnwys llid cynyddol

 

Cyfeirir at boen gydag anaf heb hebddo, ac efallai sydd heb unrhyw achos amlwg sy'n ystyfnig ac sy'n para'n hirach na thri mis (yr uchafswm cyfnod y bydd y rhan fwyaf o anafiadau, hyd yn oed esgyrn wedi'u torri, yn iacháu) fel poen gyson (cronig). Erbyn hynny, mae fel arfer yn ymwneud â'r ffaith bod system amddiffynnol y corff yn fwy sensitif ac amddiffynnol yn hytrach na bod y corff wedi cael ei niweidio mewn unrhyw ffordd ond gall gael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd rhywun. Gall deall mwy am boen helpu: