Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau Cyffredin

Mae diagnosis o ASC yn cael ei gydnabod fel cyflwr gydol oes. Mae hyn yn golygu ei fod yn gyflwr a fydd yn parhau pan fydd eich plentyn yn oedolyn. Serch hynny, nid yw hyn bob amser yn golygu y bydd angen yr un lefel o gymorth ar yr unigolyn. Bydd gan bob plentyn sy'n cael diagnosis o ASC ei gryfderau a'i heriau unigryw ei hun. Mae hyn yn golygu bod effaith y diagnosis yn wahanol i bob teulu. Bydd llawer o blant wrth iddyn nhw dyfu'n oedolion, yn datblygu ffyrdd o reoli heriau a chynyddu eu cryfderau. Gall hyn fod gyda gofal a chymorth parhaus neu mewn rhai achosion, heb unrhyw gymorth o gwbl. Mae’r cyfan yn dibynnu ar eu hanghenion unigol. Gall anghenion unigolyn newid dros amser gydag oedran, datblygiad, profiadau bywyd ac amgylchiadau, ac weithiau gallant gynyddu yn ystod llencyndod a/neu pan fydd yn oedolyn.

Drwy ein gwasanaeth byddwn yn adeiladu proffil o anghenion unigol eich plentyn neu unigolyn ifanc, gan edrych ar eu cryfderau a'u heriau. Yn dilyn asesiad llawn, byddwn yn paratoi adroddiad. Bydd yr adroddiad yn cynnwys unrhyw ddiagnosis. Sylwch na roddir diagnosis ym mhob amgylchiad. Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei esbonio'n llawn i chi yn ystod eich apwyntiad adborth ôl yr asesiad. Yn ystod yr apwyntiad hwn byddwn yn esbonio:

  • Beth yw awtistiaeth, a sut y gall effeithio ar y plentyn neu unigolyn ifanc
  • Cynnwys y proffil
  • Darparu adroddiad ysgrifenedig o'r asesiad
  • Darparu gwybodaeth a mynediad at adnoddau cymorth megis llyfrau, DVDs, gwefannau defnyddiol a gwasanaethau lleol
  • Gofyn am ganiatâd rhieni i rannu gwybodaeth â Meddyg Teulu a gweithwyr proffesiynol priodol eraill (e.e. addysg, gofal cymdeithasol).

Gweler ein hadran Asesu am ragor o wybodaeth.

Gallwch hefyd rannu'r adroddiad hwn a'i ddefnyddio fel adnodd defnyddiol i gynorthwyo pobl i ddeall eich plentyn yn well, a rhoi'r gofal a'r cymorth cywir yn eu lle os oes eu hangen. Dyma ddolen i rai adnoddau defnyddiol

Yn anffodus, mae rhywfaint o ddata Cenedlaethol sy'n awgrymu bod oedolion awtistig yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith neu'n dangyflogedig, er bod ganddynt y setiau sgiliau a'r arbenigedd i ragori yn y gweithle. Fodd bynnag, o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 mae ASC yn cael ei gydnabod fel anabledd ac o ganlyniad, rhoddir hawliau ac amddiffyniadau penodol o dan y gyfraith i unigolion ag ASC. Er enghraifft, mae’n rhaid i gyflogwyr wneud addasiadau rhesymol i ganiatáu i’r unigolyn gyflawni ei waith gorau a’i amddiffyn rhag gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth.

Mater i'r unigolyn yw p'un a yw'n dewis dweud wrth ei gyflogwr fod ganddo ASC ai peidio.  Mae gan unrhyw unigolyn hawl i gadw'r wybodaeth hon yn breifat. Mae rhai pobl yn pryderu y gallent wynebu gwahaniaethu yn y gweithle os byddant yn dweud wrth eu cyflogwr bod ganddynt ASC. Fodd bynnag, gall dweud wrth y cyflogwr helpu i gael mynediad at y cymorth a’r addasiadau yn y gweithle sydd eu hangen i gefnogi’r unigolyn i fwynhau a bod yn llwyddiannus yn yr yrfa o’i ddewis.

Mae Autismwales.org wedi llunio llyfryn adnoddau defnyddiol sy’n helpu i egluro mwy am hawliau cyflogaeth:

ExploringEmploymentResourceBooklet.pdf (autismwales.org)

Bydd gan blentyn ag ADHD wahaniaethau yng ngweithgaredd yr ymennydd a all achosi heriau o ran canolbwyntio, hunanreolaeth a'r gallu i eistedd yn llonydd. Mae ADHD yn gyflwr lle mae plentyn neu unigolyn ifanc yn cael anhawster canolbwyntio, a gorfywiogrwydd a/neu fyrbwylltra sy'n fwy nag sy’n arferol i’w hoedran, ac sy'n effeithio ar eu bywyd o ddydd i ddydd. Efallai na fydd gan y plentyn neu’r unigolyn ifanc bob un o’r tair agwedd hyn ar ADHD ac mae pa mor ddifrifol yw pob agwedd yn amrywio rhwng unigolion. Ni fydd gan bob plentyn ac unigolyn ifanc sy’n methu canolbwyntio ADHD.

Gall anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) fod yn gyflwr gydol oes. Efallai y bydd eich plentyn yn dechrau profi symptomau yn ystod plentyndod a chanfod ei fod yn parhau yn ei arddegau ac fel oedolyn. Efallai na fydd rhai plant yn profi'r parhad hwn pan fyddant yn oedolion. Mae rhywfaint o dystiolaeth sy'n awgrymu bod hyn yn digwydd o ganlyniad i ddatblygiad yr ymennydd neu fod y plentyn yn datblygu strategaethau a galluoedd i reoli ei gyflwr.

Mae’r diagnosis a’r cymorth cywir yn hanfodol i blant a phobl ifanc ag ADHD, gan ei fod yn cefnogi’r plentyn/unigolyn ifanc a’i deulu i ddeall eu cryfderau a’u heriau unigryw a chaniatáu i’r cymorth cywir gael ei roi yn ei le.

Drwy ein gwasanaeth, byddwn yn creu proffil ar gyfer anghenion unigol y plentyn neu unigolyn ifanc, gan edrych ar eu cryfderau a'u heriau ac yn dilyn asesiad llawn, byddwn yn cwblhau adroddiad yn amlinellu unrhyw ddiagnosis. Sylwch, nid diagnosis yw canlyniad pob asesiad. Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei esbonio'n llawn i chi yn ystod eich apwyntiad adborth ôl ar ôl yr asesiad. Yn ystod yr apwyntiad hwn byddwn yn esbonio:

Beth yw awtistiaeth, a sut y gall effeithio ar y plentyn neu unigolyn ifanc.

  • Beth yw cynnwys y proffil
  • Darparu adroddiad ysgrifenedig o'r asesiad
  • Darparu gwybodaeth a mynediad at adnoddau cymorth megis llyfrau, DVDs, gwefannau defnyddiol a gwasanaethau lleol.
  • Ystyried opsiynau ar gyfer meddyginiaeth ac a yw'r rhain yn iawn i'ch plentyn. – Gwneud apwyntiad ychwanegol lle bo’n briodol.
  • Gofyn am ganiatâd rhieni i rannu gwybodaeth â Meddyg Teulu a gweithwyr proffesiynol priodol eraill (e.e. addysg, gofal cymdeithasol).

Gallwch hefyd rannu'r adroddiad hwn a'i ddefnyddio fel adnodd defnyddiol i gynorthwyo pobl i ddeall eich plentyn yn well a rhoi'r gofal a'r cymorth cywir yn eu lle os oes eu hangen. Dyma ddolenni at rai adnoddau defnyddiol:

 

ADHD Animation for Children and Young People - Let's talk about ADHD - YouTube

ADHD Resources for Parents - Help Your Child With ADHD | Parents Guide to Support | YoungMinds

Yn anffodus, oherwydd y galw cynyddol am asesiadau a’r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael i wasanaethau ledled Cymru, mae amseroedd aros am asesiadau yn hir iawn, a'r tu hwnt i’r targedau cenedlaethol o 26 wythnos.

Rydym ni’n wasanaeth bach, ond rydym bob amser yn gwneud ein gorau i weithio'n effeithiol i sicrhau ein bod yn symud trwy ein rhestr aros mor gyflym â phosibl.

Mae nifer o ffactorau lleol yn effeithio ar amseroedd aros, felly cysylltwch â'ch gwasanaeth lleol am ragor o wybodaeth.

Do, yn anffodus. Yn unol â chyfarwyddebau COVID-19 y llywodraeth, ataliwyd holl waith y GIG nad oedd yn hanfodol ar unwaith gan gynnwys asesiadau’r gwasanaethau niwroddatblygiadol. Mae hyn wedi cael effaith ar ein hamseroedd aros, ond rydym yn gweithio i leihau ein hamseroedd aros ac yn rhoi strategaethau effeithiol ar waith i gefnogi'r gwaith hwn.

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn rhoi gwerth ar amrywiaeth ac mae'n ymrwymedig i recriwtio a chadw'r bobl orau bosibl. Rydym yn hynod falch o gyfansoddiad amrywiol ein Lluoedd Arfog, gan gynnwys y personél niwroamrywiol eang o fewn ein lluoedd.

Mae'n bwysig bod ein Lluoedd Arfog yn adlewyrchu'r gymdeithas y maent yn ei gwasanaethu a'u bod yn elwa ar y dalent sydd ar gael. Mae hefyd yn hanfodol bod gan yr holl ddechreuwyr newydd yn y Lluoedd Arfog y galluedd i wasanaethu ym mhob agwedd am gyfnod eu dyletswyddau, gan sicrhau effeithlonrwydd gweithredol, diogelwch i'r unigolyn a diogelwch i eraill. O ganlyniad, mae nifer o gyflyrau sy'n atal unigolion rhag gwasanaethu. Caiff iechyd a hanes meddygol yr holl unigolion, fel ymgeisydd i'r Lluoedd Arfog neu Unigolyn sy'n Gwasanaethu, eu hystyried fesul achos.

Gall ymgeiswyr sydd ag Anawsterau Dysgu Penodol (SLDs), gan gynnwys Dyslecsia, Dyscalcwlia a Dyspracsia, wasanaethu yn y Lluoedd Arfog, os byddant yn cyrraedd y safonau o ran dethol, hyfforddiant a pherfformiad. Bydd personél yn y lluoedd sydd â SLDs yn derbyn cymorth sy'n briodol i'w hanghenion, lle bo hynny'n ymarferol o fewn cyfyngiadau gwasanaeth ac adnoddau. Bwriedir i gyrsiau hyfforddiant a gynigir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn fod yn hygyrch i bersonél y lluoedd sydd ag ystod o ofynion gwahanol, gan gynnwys SLDs. Mae staff hyfforddi i gyd yn derbyn hyfforddiant ar y dulliau gorau ar gyfer addysgu pobl sydd â SLDs.

Er y gallai cyflyrau eraill megis Awtistiaeth ac ADHD atal unigolion rhag ymuno â'r lluoedd, nid felly yw hi fel mater o drefn. Caiff pob cais ei ystyried fesul achos gan glinigwyr recriwtio, a fydd yn cynnal asesiad unigol o'r cyflwr, ei ddifrifoldeb a'r angen am driniaeth. Os caiff cais ei wrthod am resymau meddygol, gall ymgeisydd apelio yn erbyn y penderfyniad i'r gwasanaeth recriwtio, gan roi tystiolaeth feddygol ychwanegol os bydd angen.

Mae proses hepgor gweithredol hefyd lle gall y gwasanaeth sy'n cyflogi recriwtio rhywun nad yw'n cyrraedd y safonau mynediad presennol, mewn achosion eithriadol. Gallai hyn gynnwys unigolion sydd â sgiliau arbenigol unigryw. Byddai hyn hefyd yn cael ei bennu fesul achos.

Caiff gofynion mynediad eu hadolygu'n barhaus. Mae hyn yn sicrhau eu bod yn deg i bawb sydd â dyheadau i ddilyn gyrfa yn y Lluoedd Arfog a'u bod yn ymwybodol o'r dystiolaeth ddiweddaraf.

Ynglŷn â'r diwygiad gwasanaeth

I bobl ifanc dros 17 a hanner mlwydd oed, gellir gwneud cyfeiriad at y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (IAS) i gael ei ystyried yn erbyn eu meini prawf derbyn ar gyfer awtistiaeth.

 

Yn dilyn adolygiad cenedlaethol o alw a chapasiti, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cynlluniau ar waith i gefnogi twf a chynaliadwyedd gwasanaethau niwroddatblygiadol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys mentrau gweithredol i leihau amseroedd aros.

Rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar y mentrau hyn ac wedi sicrhau ein bod yn chwarae rhan weithredol yn y cynllunio hwn ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.

Adolygiad o Wasanaethau Niwroddatblygiadol |