Neidio i'r prif gynnwy

Galwad am Bryder

Mae Galwad am Bryder yn fenter diogelwch cleifion lle gall cleifion, teuluoedd, gofalwyr neu staff ofyn am gymorth brys os ydynt yn teimlo bod cyflwr claf yn gwaethygu. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i bob claf mewnol yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd, ac Ysbyty Maelor Wrecsam. Sylwer nad yw Galwad am Bryder ar gael i gleifion sy'n cael eu trin yn ein Hadrannau Brys.

Bydd cysylltu â Galwad am Bryder yn sbarduno adolygiad clinigol brys os ydych chi'n credu bod claf yn mynd yn fwy sâl, ac os ydych chi eisoes wedi codi’ch pryderon gyda'r tîm meddygol sy'n gofalu am y claf ar ward yr ysbyty.

Efallai y byddwch chi'n sylwi ar rai newidiadau bach cyn iddyn nhw ymddangos yn ein harsylwadau arferol ni. Gallai'r newidiadau hyn fod yn arwyddion cynnar bod y claf yn dirywio.

Rydym yn cydnabod y gall claf, perthynas neu ofalwr weithiau weld bod rhywbeth o'i le cyn i unrhyw un arall weld hynny.

Monitro cleifion

Pan fydd rhywun yn glaf yn yr ysbyty, byddwn yn gwirio eu mesuriadau hanfodol a mesuriadau iechyd pwysig eraill yn rheolaidd. Bydd pa mor aml mae hyn yn digwydd yn dibynnu ar gyflwr ac anghenion unigol y claf. Weithiau efallai y bydd angen i ni ddeffro claf i wneud y gwiriadau hyn.

Rydym hefyd yn gofyn i gleifion, o leiaf ddwywaith y dydd, a ydynt yn teimlo'n well neu'n waeth gan ddefnyddio’r Holiadur Llesiant Cleifion. Mae hyn yn helpu i fonitro unrhyw newidiadau annisgwyl yng nghyflwr y claf. Fel rhan o’r holiadur hwn, mae’r cydweithwyr nyrsio yn gofyn, gwrando, cofnodi a gweithredu ar unrhyw newidiadau yng nghyflwr y claf, fydd yn cael eu codi ganddyn nhw eu hunain neu eu hanwyliaid. Fe'i defnyddir i fonitro unrhyw newidiadau annisgwyl yng nghyflwr y claf ac mae'n cynnig llwybr clir i weithwyr proffesiynol gofal iechyd, cleifion a'u teuluoedd i godi pryderon.

Pryd i gysylltu â Call 4 Concern

Mae Call 4 Concern yn wasanaeth i'r rhai sy'n pryderu bod cyflwr claf yn gwaethygu.

Os oes gennych bryder, dilynwch y camau isod:

  1. Siaradwch â'r tîm sy'n gofalu am y claf
  2. Os ydych chi'n dal i bryderu ar ôl siarad â'r tîm, dylech gysylltu â Galwad am Bryder ar gyfer adolygiad.

Ffoniwch rif ffôn switsfwrdd yr ysbyty a gofynnwch am Galwad am Bryder, yna nodwch yr adran neu'r ward y mae'r claf arni e.e., Oedolion, Pediatrig, Mamolaeth.

Rhifau ffôn:

Bydd eich galwad yn cael ei drosglwyddo i dîm gwahanol yn ein hysbyty, sy'n arbenigo mewn gofalu am gleifion sy'n ddifrifol wael. Byddant yn gweithio gyda chi a thîm gofal y claf i drefnu unrhyw driniaeth fydd ei hangen neu adolygiad pellach.

Bydd angen i'r tîm Galwad am Bryder wybod:

  • Enw’r claf
  • Lleoliad (ward ysbyty a rhif gwely)
  • Disgrifiad byr o’r pryder
  • Eich manylion cyswllt a'ch perthynas â'r claf

Efallai eich bod yn dymuno cysylltu â'r tîm Galwad am Bryder oherwydd eich bod eisoes wedi codi eich pryderon gyda'r tîm sy'n gofalu am eich claf, ond eich bod yn dal i bryderu ac yn dymuno cael adolygiad pellach. Gallai enghreifftiau o bryderon gynnwys:

  • Newidiadau mewn tymheredd – y claf yn teimlo’n boeth neu’n oer i'w cyffwrdd
  • Unrhyw boen sy'n gwaethygu
  • Unrhyw newidiadau i'w croen e.e., brech
  • Ymddygiad egni isel, yn gysglyd neu’n bendrwm
  • Lefelau hydradu
  • Newidiadau yn yr anadlu
  • Dryswch newydd
  • Unrhyw beth arall sy'n eich poeni

Ni fydd defnyddio'r gwasanaeth Galwad am Bryder yn cael effaith negyddol ar ofal y claf mewn unrhyw ffordd. Rydym yn gwybod y gall cleifion, eu hanwyliaid a'u gofalwyr weld bod rhywbeth o'i le cyn i'r tîm gofal iechyd wneud hynny. Mae Galwad am Bryder yn sicrhau bod pryderon pwysig gan gleifion, eu hanwyliaid a'u gofalwyr yn cael eu clywed a’u bod yn arwain at weithredu.

Ymateb i'ch galwad

Bydd y tîm Galwad am Bryder yn anelu at ateb eich galwad yn brydlon. Fodd bynnag, efallai y byddwn yn delio ag argyfwng arall weithiau. Os felly byddwn yn eich cynghori i ffonio'n ôl neu siarad â thîm y ward os yw'r pryder yn un brys.

Ar ôl blaenoriaethu gofynion y broblem, bydd y tîm yn ymweld â'r ward i drafod eich pryderon. Bydd y Tîm Galwad am Bryder yn cysylltu â thîm meddygol y claf ac yn cychwyn triniaeth neu adolygiad pellach os bydd angen.

Pryd i BEIDIO â chysylltu â Galwad am Bryder

Mae Galwad am Bryder ar gyfer pryderon ynghylch cleifion sy'n sâl ac sydd angen ymateb clinigol brys.

NID yw Galwad am Bryder yn gallu cynorthwyo gyda'r  canlynol:

  • Cleifion yn eu cartrefi
  • Parcio
  • Oriau ymweld
  • Bwyd yr ysbyty
  • Glendid yr ysbyty
  • Cwynion
  • Unrhyw bryderon cyffredinol eraill

Ar gyfer unrhyw bryderon cyffredinol, fel gofal nyrsio, cyfleusterau neu gwynion, siaradwch â nyrs y ward neu reolwr y ward. Gallwch hefyd gysylltu â'r metron i drafod unrhyw faterion ymhellach.

Efallai y byddech yn dymuno cysylltu â  Gwasanaeth Ymholiadau a Datrysiadau Pobl (PEARS) i gael cymorth gyda'ch pryder cyffredinol. Bydd tîm PEARS yn gyswllt rhyngoch chi a'r gwasanaeth neu'r gweithiwr iechyd proffesiynol perthnasol er mwyn datrys problemau cyn gynted â phosibl a sicrhau bod eich profiad gyda ni yn un sydd mor gadarnhaol â phosibl.