Mae protein yn cyflawni rhan bwysig yn eich corff yn ystod eich triniaeth:
Gallai peidio bwyta digon o brotein, yn enwedig dros gyfnodau hir, arwain at wendid yn y cyhyrau, eiddilwch ac adferiad araf o salwch ac anafiadau.
Dylech anelu at fwyta o leiaf ddwy gyfran o gig, pysgod, wyau, ffa, corbys, ffacbys, cnau neu ddewisiadau amgen i gig fel Quorn neu dofu bob dydd. Mae'r rhain yn ffynonellau pwysig o brotein, fitaminau a mwynau fel haearn.
Bydd dwy gyfran o bysgod bob wythnos, un gyfran olewog, hefyd yn eich helpu i gael ychydig o asidau brasterog hanfodol (omega - 3) sy'n dda i iechyd eich calon.
Mae rhagor o wybodaeth am brotein ar gael yma -Protein: pam mae'n bwysig a ble i ddod o hyd iddo.